Atal Clefyd y Galon

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:06, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Gall unigolion roi amrywiaeth o gamau ar waith i leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, drwy beidio ag ysmygu, cynnal pwysau iach ac ymarfer corff yn rheolaidd, er enghraifft. Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny.