Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ystod dau arhosiad diweddar yn yr ysbyty, un yn Ysbyty Tywysoges Cymru a'r llall yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cefais fy synnu gan y diffyg dewis deietegol a oedd ar gael. Fel Mwslim, ni chefais gynnig bwyd halal. Fe'm hysbyswyd ers hynny fod llysieuwyr hefyd yn aml heb gael cynnig bwyd sy'n diwallu eu hanghenion deietegol. Y canlyniad: cleifion mewnol yn gorfod dibynnu ar deulu neu ffrindiau i ddod â bwyd i mewn yn ystod amser ymweld, nad yw wedi bod yn bosibl yn ystod blynyddoedd y pandemig. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol ac y bydd yn arwain at achosion lle nad yw cleifion yn cael y cydbwysedd cywir o faeth i'w helpu i wella. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod pob ysbyty yng Nghymru yn gweini prydau sy'n bodloni gofynion deietegol cleifion yn ogystal â bod yn gytbwys o ran maeth? Diolch.