Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rŷch chi'n eithaf reit, a dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn. Mae'r effaith ar blant yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio arnyn nhw am amser hir os nad ydyn ni'n delio gydag e'n gynnar. Mi fyddwn ni'n cael update ar adferiad cyn bo hir, a dwi wedi gofyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried plant wrth inni edrych ar y rhaglen. Ac rydych chi'n ymwybodol, wrth inni ddatblygu'r cynllun yna, fod hwn yn rhywbeth roeddwn i eisiau gweld yn newid wrth ein bod ni'n dysgu mwy am y feirws ac am y ffordd mae pobl yn dioddef.
Felly, mae'r ffaith ein bod ni o hyd, pob chwe mis, â chyfle i ailedrych ar beth sy'n digwydd dwi'n meddwl yn rhoi cyfle inni edrych ar yr hyn rŷch chi wedi pwyntio allan heddiw.