Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn hwnnw. Mae'r dulliau allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles—yn nwylo Llywodraeth y DU, ond byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i bob plentyn yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial.