4. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:17, 13 Gorffennaf 2022

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf, Heledd Fychan.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:18, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 11 Gorffennaf bob blwyddyn, rydym yn cofio Srebrenica a hil-laddiad 8,372 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd. Mae'r ymdrechion i gofio yma yng Nghymru yn cael eu gyrru gan Abi Carter a bwrdd Cofio Srebrenica Cymru, sy'n gweithio'n galed i sicrhau nad ydym yn anghofio straeon Srebrenica a'n bod yn dysgu gwersi'r hil-laddiad creulon hwnnw. Y thema eleni ar gyfer y coffáu yw mynd i'r afael â gwadu, a herio casineb. Drwy ddeall a wynebu'r ochr dywyll hon o'n hanes cyfunol, gallwn sicrhau ein bod yn goleuo'r tywyllwch â gobaith.

Tyfodd plant y rhyfel hwn i fyny heb fod wedi cael plentyndod, heb fod wedi gweld heddwch a heb aelodau o'u teuluoedd. Fel y dywedodd un goroeswr,

'Roeddwn i'n 10 oed pan ddaeth y rhyfel i ben, ond daeth fy mhlentyndod i ben bedair blynedd ynghynt.'

Mae ymdrechion cofio Srebrenica drwy ymweliadau addysgol, ymhlith pethau eraill, yn sicrhau bod y cof am yr erchylltra hwn yn parhau, gan ddysgu gwers werthfawr ynglŷn â lle gall casineb arwain. Mae'r gwaith yn parhau drwy ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci, enillwyr teilwng y wobr i Lysgenhadon Ieuenctid yn y digwyddiad coffa yr wythnos diwethaf. Dywedodd un goroeswr,

'Er gwaethaf popeth, rwy'n gobeithio y gallaf ddysgu fy merched i dyfu i fyny heb gasineb. Dyna fydd fy llwyddiant.'

Rhaid inni beidio ag anghofio'r hil-laddiad creulon hwn, a rhaid inni barhau i herio casineb a phob ffurf ar eithafiaeth.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour

(Cyfieithwyd)

Wyth deg pum mlynedd yn ôl, yn dilyn bomio Guernica yn ystod rhyfel cartref Sbaen, cafodd 4,000 o blant Basgaidd a staff cysylltiol eu symud i Brydain. Roedd yn enghraifft hynod o drefniadaeth gymunedol ar lawr gwlad. Daeth dros 200 o blant i Gymru, lle sefydlwyd cartrefi a elwid yn 'colonies' ar gyfer ffoaduriaid, ac roedd un ohonynt yn Cambria House yng Nghaerllion, lle cyrhaeddodd 56 o blant ar 10 Gorffennaf 1937. Roedd yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU. Roedd yn gyfnod o ddiweithdra a thlodi mawr, ond croesawodd pobl Caerllion a Chasnewydd y plant â breichiau agored. Cymerai pawb ran mewn gweithgareddau i godi arian, o Ffederasiwn Glowyr De Cymru a gwirfoddolwyr lleol, i'r plant eu hunain. Fe wnaethant ffurfio tîm pêl-droed Basgaidd aruthrol, cynhyrchu eu papur newydd dwyieithog eu hunain, a helpu i godi arian drwy ddawnsiau a chaneuon Basgaidd traddodiadol.

Ar y pen-blwydd nodedig hwn, rwy'n falch iawn y bydd dirprwyaeth o Lywodraeth Gwlad y Basg yn bresennol mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yng Nghaerllion. Mae penwythnos yr ŵyl yn cynnwys gemau pêl-droed, dawnswyr, cantorion a beirdd o Gymru a Gwlad y Basg, seminarau a sgyrsiau, a theithiau o amgylch treftadaeth Rufeinig Caerllion. Mae'n addo bod yn achlysur gwych. Gyda rhyfel unwaith eto'n gwmwl dros Ewrop, mae'n hawdd iawn gweld elfennau tebyg rhwng y cyfnod hwnnw a ffoaduriaid a lletygarwch y Cymry heddiw. Dylai haelioni a charedigrwydd pobl Caerllion fod yn rhywbeth y mae ein gwlad yn falch ohono. Rwy'n falch iawn ei fod yn cael ei goffáu, a hir y parhaed y berthynas honno rhwng ein pobl.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 3:21, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

'Gall un plentyn, un athro, un llyfr ac un ysgrifbin newid y byd.'

Dyma eiriau Malala Yousafzai, menyw ifanc wirioneddol ysbrydoledig, a anwyd ar 12 Gorffennaf 1997 yn nyffryn Swat ym Mhacistan. Pan oedd hi'n ddim ond 11 oed, meddiannodd y Taleban ei phentref a chau ei hysgol. Er ei hoedran ifanc, penderfynodd na fyddai'n rhoi'r gorau i'w haddysg heb frwydr. Siaradodd yn gyhoeddus ar ran merched a'u hawl i ddysgu. Ac fe'i saethwyd yn ei phen am ei hymdrechion. Ond diolch i Lywodraeth y DU a thîm o feddygon yn Birmingham, goroesodd Malala a pharhaodd i siarad dros gydraddoldeb rhywiol o'i chartref newydd yma ym Mhrydain.

Diolch byth, nid yw ein merched a'n hwyresau yn wynebu'r un heriau ag a wynebodd Malala, neu sy'n wynebu 130 miliwn o ferched ym mhob cwr o'r byd heddiw, ond diolch i fenywod ifanc ysbrydoledig fel Malala, gallant edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair a mwy cyfartal. Felly, pen-blwydd hapus—os ychydig yn hwyr—i Malala, a diolch am bopeth y parhewch i'w wneud i sicrhau bod ein byd yn lle gwell. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:23, 13 Gorffennaf 2022

Hoffwn longyfarch Côr CF1 am ennill cystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen wythnos diwethaf. Er mwyn ennill y teitl, wnaeth y côr ganu caneuon gan gynnwys trefniant o 'Dros Gymru'n Gwlad', 'Gwinllan a Roddwyd i’n Gofal' a hefyd cân werin Ffrangeg a gweddi mewn Rwsieg—repertwâr oedd yn briodol o ryngwladol ar gyfer gŵyl fel hon.

Cafodd CF1 ei sefydlu yn 2002 dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, ac ers yr adeg yna mae wedi mynd o nerth i nerth, ac yn sicr, Dirprwy Lywydd, mae'n galonogol i weld tlws Pavarotti yn cael ei gadw yng Nghymru am flwyddyn arall. Ac am ffordd hyfryd i'r côr allu dathlu ei ben-blwydd 20 mlynedd.

Erys Eisteddfod Llangollen yn un o gystadlaethau canu enwocaf y byd, ac yn blatfform i dalent pobl Cymru hefyd ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, llongyfarchiadau CF1 ac i bob côr ddaeth i'r brig yn y cystadlaethau, a da i weld tlws mor werthfawr yn cael ei gadw eto yng ngwlad y gân.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:24, 13 Gorffennaf 2022

Diolch, bawb. Yn symud ymlaen, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu caiff y ddau gynnig o dan eitemau 5 a 6, cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog, eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau.