5. & 6. Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog — Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd, a Chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog — Pleidleisio drwy Ddirprwy

Part of the debate – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM8063 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.

2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod yn effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.