Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
A gaf i ddweud faint ydw i'n croesawu'r cynnig hwn heddiw, nid er fy mwyn i na'r un ohonom ni sydd yma yn Aelodau o'r Senedd rŵan, ond y rhai hynny sydd byth yn ystyried y gallan nhw fod yn Aelod o'r Senedd—pobl sydd â rolau gofalu, er enghraifft, ac nid dim ond â phlant, ond efallai â rhiant oedrannus neu bartner sydd angen eu cefnogaeth nhw; pobl anabl sydd yn meddwl eu bod nhw byth yn mynd i allu bod yma yn rheolaidd oherwydd y cyflyrau sydd ganddyn nhw, a bod y ffaith bod angen bod yng Nghaerdydd yn rhwystr iddyn nhw feddwl y gallan nhw fod yn gynrychiolydd yn eu rhanbarth neu eu hardal nhw; a'r rhai sydd yn byw yn bell hefyd?
Dwi'n lwcus; dwi'n cynrychioli Canol De Cymru. Dydy hi ddim yn bell i mi ddod yma i'r Senedd; mae'r Senedd o fewn fy rhanbarth i. Ond, eto, am y rhai sydd wedyn yn gorfod teithio efallai 20 awr yr wythnos dim ond er mwyn gallu bod yma, mae hynny yn rhwystr i nifer ystyried bod yn Aelod o'r Senedd. Felly, dwi'n croesawu hyn. Os ydyn ni am gael Senedd sydd yn ddemocrataidd, yn gynrychioladol ac sydd hefyd â 96 o Aelodau, os daw hynny, dwi eisiau iddi fod yn Senedd sydd yn cynrychioli Cymru yn ei holl gyfanrwydd, a dwi'n croesawu hyn yn fawr.
Wrth gwrs, mae yna adegau pan fydd hi'n fanteisiol bod yma yng Nghaerdydd. Mae'r mwyafrif ohonom ni yn ceisio bod yma, ac mae yna gymaint o fanteision pan fyddwn ni ynghyd, o ran gallu rhannu syniadau, dod i adnabod ein gilydd mewn pwyllgorau ac ati. Ond, dydy bod yma bob tro ddim yn angenrheidiol, ac rydyn ni wedi dangos ei fod yn gweithio drwy gyfnod COVID.
Mi ydw i'n siomedig iawn o glywed sylwadau rhai o'r Torïaid yn y wasg heddiw, yn sôn am 'gynrychioli o'r Senedd ac nid o'r soffa'. Wel, mae gennym ni gyd swyddfeydd o fewn ein rhanbarthau a'n hetholaethau; mae'n bosibl i ni fod yn cynrychioli yn y fan yna. A dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni feddwl hefyd ein bod, y mwyafrif helaeth ohonom ni, wedi manteisio ar hyn ar adegau. Yn sicr, pan fydd rhywun yn cael galwad ffôn o ysgol ei blentyn i ddweud eu bod nhw'n sâl, mae'r ffaith eich bod chi'n gallu bod yna i'w casglu nhw ac, efallai, cyfrannu i'r Senedd yn eithriadol o bwysig ac yn golygu eich bod chi ddim yn cael eich cosbi am fod yn rhiant, oherwydd ei bod hi'n bosibl i chi fod yna.
Gymaint o weithiau pan oeddwn i'n gynghorydd sir, mi oeddwn yn cael fy meirniadu os oeddwn i'n colli un cyfarfod oherwydd doedd hi ddim yn bosibl i fi fod yn hybrid, o gymharu efo, efallai, dyn a oedd wedi ymddeol ac a oedd yn gallu bod ym mhob cyfarfod. A oedd hynny'n golygu fy mod i'n llai o gynrychiolydd o fy nghymuned oherwydd fy mod i'n methu un cyfarfod? Mae'r ffaith, wedyn, fy mod i'n gallu bod yno efo fy mhlentyn gartref ac yn gallu cynrychioli fy nghymuned, mi wnaeth hynny wahaniaeth gwirioneddol, oherwydd mae pobl yn defnyddio hynny yn eich erbyn chi, os ydych chi'n edrych dim ond ar record bod yn bresennol. Dydy hynny ddim yn golygu eich bod chi ddim yn gynrychiolydd effeithiol.
O siarad â phobl ag anableddau hefyd a oedd yn croesawu'r newid hwn, dywedwyd y byddai hyn yn golygu y gallan nhw sefyll, oherwydd y rhwystr mwyaf yw gorfod bod yma ar gyfer pob un sesiwn ac i bleidleisio. Felly, dwi'n croesawu hyn yn fawr. Dwi'n gobeithio'n fawr y gwnaiff y Torïaid ailfeddwl rhai o'u sylwadau dirmygus, yn fy marn i, oherwydd dydy'n democratiaeth ni ddim yn agored i bawb fel y mae hi. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen; ni fydd yn datrys pob rhwystr, ond mae'n gam pwysig ymlaen a dwi'n ei groesawu'n fawr.