7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:00, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn gyfnod heriol i fusnesau ac unigolion, gyda chostau ynni a deunyddiau crai'n cynyddu'n sylweddol. Ac yn erbyn y cefndir hwn y mae angen inni ddatblygu economi fwy gwydn yng Nghymru gan gyflawni ein nodau lleihau carbon ar yr un pryd. Mae sicrhau newid teg i sero net yn hanfodol, ac mae wedi bod yn un o amcanion pennaf y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'n rhaid inni fynd â holl ddinasyddion Cymru gyda ni heb adael unrhyw un ar ôl wrth inni symud i ddyfodol gwyrddach, tecach. A dyma pam fod y polisi cyntaf yn ein cynllun Cymru Sero Net yn canolbwyntio ar sicrhau newid teg, fel y mae Aelodau wedi galw amdano heddiw.

Mae angen inni sicrhau bod y newid i ddyfodol glanach, tecach yng Nghymru a’r byd yn cael ei reoli’n ofalus. A diolch, Jane Dodds, am dynnu sylw at effaith y newid hinsawdd ar Affrica. Bydd y newidiadau, sy’n cael eu hysgogi gan yr angen i ddatgarboneiddio ein heconomi yma ac yn y byd wrth gwrs, yn cael effaith ar ddiwydiannau, sectorau’r gweithlu a grwpiau economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y llwybrau, y polisïau a’r camau gweithredu a ddewiswn. Fel Llywodraeth, mae gennym ymrwymiad cryf i amodau gwaith teg i weithlu Cymru, ac mae hyn yn ganolog i’n newid i economi ddi-garbon, wrth inni geisio creu Cymru lanach, gryfach, decach. Mae llais gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol yn nodwedd hanfodol o waith teg, felly mae'n bwysig fod gan weithwyr yn y sectorau yr effeithir arnynt lais cryf a'u bod yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yn y newid i sero net. Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r gweithlu a busnesau i ddatblygu dealltwriaeth lawn o effaith y newid ar y gweithlu yn y sectorau yr effeithir arnynt.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r newid i economi ddi-garbon drwy'r dull partneriaeth gymdeithasol dan arweiniad fy Nirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, gan ddod â’r Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr ynghyd, a chan gydnabod pwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar. Wrth greu diwydiannau a swyddi’r dyfodol, byddwn yn adolygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y newid i sero net ac yn ceisio darparu cyfleoedd i adleoli gweithwyr o sectorau diwydiannol traddodiadol. Byddwn yn ymgysylltu â’r gweithlu a'r diwydiant fel rhan o’r cynlluniau hyn. Ond rydym hefyd wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth yr Alban, drwy eu fforwm polisi newid teg, er mwyn inni allu rhannu a dysgu gan ein gilydd ar y cyd.

Fel y dywed Jack Sargeant, yn gywir ddigon, rhaid inni newid o economi sy’n seiliedig ar danwydd ffosil i un sy’n seiliedig ar drydan a hydrogen, a gynhyrchir i raddau helaeth o ynni adnewyddadwy—a diolch, unwaith eto, Jack, am eich arweinyddiaeth a’ch profiad gwaith uniongyrchol a'ch arbenigedd ar y materion hyn. Bydd creu seilwaith newydd sy'n seiliedig ar drydan yn creu llawer o gyfleoedd newydd, gan gynnwys mewn meysydd gweithgynhyrchu traddodiadol, ac rydych yn gwneud pwyntiau rhagorol am effaith y newid ar y gweithlu presennol. Rydym wedi ymrwymo, fel y dywedais, i sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed—y rheini sydd â'r profiad byw hwnnw a'r ddealltwriaeth a'r sgiliau hynny—a'n bod yn gwrando arnynt fel rhan o'r newid hwn.

Gan droi at y cynllun peilot incwm sylfaenol, fel y gŵyr yr Aelodau, ar 28 Mehefin, gwneuthum ddatganiad yn cyhoeddi dechrau’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru. Mae’r cynllun peilot yn brosiect radical ac arloesol, sy’n cynnig sefydlogrwydd ariannol i dros 500 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru, a bydd llawer ohonoch ar draws y Siambr wedi clywed y datganiadau teimladwy gan bobl ifanc sy’n rhan o'r cynllun peilot hwnnw. Mae’n brosiect hynod gyffrous, sy’n rhoi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc. Mae gormod o bobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau enfawr rhag gallu cyflawni eu gobeithion a’u huchelgeisiau, megis problemau gyda chael cartref diogel a sefydlog i gael swydd ac adeiladu gyrfa foddhaus, a bydd y cynllun hwn yn helpu pobl i fyw bywyd heb rwystrau a chyfyngiadau o’r fath. Ond byddwn yn gwerthuso'r gwersi a ddysgwyd o'r peilot yn ofalus. Bydd gwrando ar bawb sy’n cymryd rhan yn hollbwysig wrth bennu llwyddiant y prosiect uchelgeisiol ac arloesol hwn, a byddwn yn archwilio i weld a yw incwm sylfaenol yn ffordd effeithlon o gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac nid yn unig o fudd i’r unigolyn, ond i’r gymdeithas ehangach hefyd.

Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y peilot o ran gwella profiadau pobl o ofal unigol a sut y mae bod yn rhan o’r cynllun peilot wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc, gydag adborth rheolaidd gan dderbynwyr a fydd yn sicrhau bod y gwerthusiad yn seiliedig ar eu profiadau, ac yn cefnogi gwelliannau i'r peilot wrth iddo gael ei gyflwyno. Ond wrth gwrs, y bwriad yw y bydd y cynllun peilot hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr i brofi manteision honedig incwm sylfaenol, megis mynd i’r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a llesiant ariannol. Felly, mae'n debygol o ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr ar gyfer y dyfodol ynghylch sut y gallai'r cysyniad o incwm sylfaenol fod yn berthnasol i grwpiau eraill yn ehangach. Fel y mae'r Aelodau wedi nodi heddiw, mae'r cynllun a'r gweithrediad yn profi rhai o egwyddorion incwm sylfaenol.

Nawr, Ddirprwy Lywydd dros dro, rwy’n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae'n cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru. Rydym wedi clywed y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, yn adleisio, rwy'n ofni, llawer o'r datganiadau a glywn gan yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid: marchnad rydd, gwladwriaeth fach, dadreoleiddio, torri trethi, torri gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu mewn gwladwriaeth sy’n ymyrryd er mwyn sicrhau newid teg a dylem archwilio pob cyfle i wneud i hynny weithio. Diolch yn fawr.