Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn.
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae glaw monsŵn wedi achosi llifogydd trychinebus yn Bangladesh; gwres eithafol wedi crino rhannau o dde Asia ac Ewrop; sychder estynedig wedi gadael miliynau ar drothwy newyn yn nwyrain Affrica; ac yn agosach adref, edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd yma: rydym yn profi tymheredd uchel iawn. Mae'r Senedd hon a'r Llywodraeth wedi cydnabod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy'n ein hwynebu. Felly, mae'r achos dros drawsnewid ein heconomi a'n cymdeithas i allu byw o fewn terfynau adnoddau cyfyngedig ein planed yn ddi-droi'n-ôl bellach.
Ond y cwestiwn yw sut y cefnogwn y bron i 220,000 o swyddi ledled Cymru mewn diwydiannau a fydd, o ganlyniad i newid i sero net, yn anochel yn peidio â bod yn y dyfodol. Ni allwn aros yn segur tra bo gweithwyr a chymunedau'n wynebu'r newid cyflymaf a mwyaf sylweddol mewn degawdau. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Llafur Rhyngwladol wedi dweud ein bod yn byw mewn cyfnod o ddiweithdra uchel difrifol, pan gaiff swyddi newydd eu creu'n bennaf ar raddfeydd cyflog isel, gyda diffyg budd-daliadau a diogelwch amlwg, incwm real nad yw'n cynyddu, neu sy'n gostwng, a systemau nawdd cymdeithasol sydd naill ai'n gwbl absennol neu'n cael eu dogni'n llym.
Rhaid i'n huchelgais ar gyfer gweithwyr a'n cymunedau fod yn bellgyrhaeddol ac yn hollgynhwysol fel rhan o'r newid i sero net. Ni fydd yn newid teg na chyfiawn os bydd gweithwyr yn colli eu swyddi neu'n mynd i gyflogaeth fregus. Cawn ein rhybuddio y bydd gwledydd sy'n methu paratoi ar gyfer y newid economaidd hwn tuag at waith mwy bregus yn cael eu taro fwyfwy gan yr ansefydlogrwydd sy'n gysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd. Rhaid inni darfu'n fwriadol ac yn rhagweithiol ar y duedd beryglus tuag at waith ansicr. Ac fel y cawn ein rhybuddio, mae newid mawr ar ei ffordd.
Rhaid inni sicrhau bod y newid nid yn unig wedi'i gynllunio'n dda, ond ei fod yn gymdeithasol gyfiawn. Am y rheswm hwn, rwy'n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus i gynnwys y rhai a gyflogir mewn diwydiannau carbon-ddwys. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i incwm sylfaenol cyffredinol, gan ddatgloi potensial a rhyddid pobl o bob cefndir sy'n cael eu dal yn ôl a'u hatal rhag llunio eu dyfodol eu hunain. Byddai incwm sylfaenol wedi'i dargedu at weithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y newid i sero net yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u grymuso i benderfynu ynglŷn â'u dyfodol. Byddai'n gweithredu fel rhwyd ddiogelwch wrth i'n heconomi newid ac wrth i ddiwydiannau addasu.
Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru yn eu cynllun ar gyfer cyflogaeth werdd, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r ffordd y mae Cymru'n sicrhau ei fod yn newid teg. Nid yw'r cynllun yn glir ynghylch pa ddiwydiannau a gaiff eu cefnogi a pha gymorth fydd ar gael. Dim ond £1 filiwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i gynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net, nad yw'n adlewyrchu'r brys na'r raddfa, er y nodwyd bod tua 15 o ddiwydiannau ledled Ewrop yn debygol o newid yn sylweddol.
I orffen, yn fy marn i, bydd cynllun peilot incwm sylfaenol yn taflu goleuni ar botensial incwm sylfaenol i gefnogi gweithwyr nid yn unig i newid i economi ddi-garbon, ond i helpu Cymru i ddod yn gymdeithas decach, wyrddach a mwy cyfiawn. Gobeithio y gall y Senedd gefnogi'r gweithwyr hynny a'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.