Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Dim ond i wneud pwynt syml iawn ar faniffestos: mae maniffestos ar gyfer y tymor, hyd Senedd gyfan, nid i'w gyflawni ar y diwrnod cyntaf. Er bod yn rhaid imi ddweud, mae pump o'r pwyntiau allweddol a oedd gennym ym maniffesto Llafur eisoes wedi'u cyflawni, ynghyd â rhai eraill a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Fe gyrhaeddwn yno ar y pethau eraill.