Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
I ddechrau, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ni allwn ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio'r economi yn unig. Mae'n rhan bwysig, ydy, ond mae arnom angen newid ehangach hefyd yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio a sut yr awn ati i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae arnom angen trawsnewid ac ad-drefnu'r system economaidd bresennol yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r newid hinsawdd ac ymateb i ganlyniadau'r argyfwng hinsawdd. Y gwledydd a'r poblogaethau tlotaf a mwyaf ymylol yw'r rhai sy'n lleiaf cyfrifol am gynhyrchu nwyon tŷ gwydr, ond maent yn fwy tebygol o fod yn agored i effeithiau negyddol newid hinsawdd, ac mae eu gallu i gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb, ymdopi ac ymadfer yn sgil effaith yr argyfwng hinsawdd yn fwy cyfyngedig. Rhaid rhoi anghydraddoldebau wrth wraidd strategaeth effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid hinsawdd. Rhaid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd olygu mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hefyd.
Nawr, i siarad am y cynnig, bydd newid teg yn hanfodol. Mae nifer o'r Aelodau ar draws y Siambr wedi gwneud y pwynt hwn yn y gorffennol. Rhaid inni fynd â phobl gyda ni ar y daith tuag at sero net. Mae un o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn sectorau hinsawdd-gritigol, sectorau y bydd y newid i sero net yn effeithio'n aruthrol arnynt. Dyma'r sectorau carbon uchel y mae cynifer o gymunedau yng Nghymru yn dibynnu arnynt ar gyfer cyflogaeth a llwyddiant economaidd. Dyna un o'r rhesymau pam y bûm yn dadlau o blaid comisiwn pontio teg ers cael fy ethol, er mwyn cael corff i fonitro penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sero net ac i asesu'r effaith ar ein cymunedau a sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer y cymunedau hynny, megis cyfleoedd ailhyfforddi. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi sefydlu comisiwn o'r fath.
Y gwir amdani yw na allwn fforddio gadael pobl ar ôl yn yr un modd ag y gadawyd pobl ar ôl pan gaeodd y pyllau glo yn ystod cyfnod Thatcher. Mae Jack Sargeant eisoes wedi tynnu sylw at hyn. Ni chafodd ei effeithiau ar gymunedau eu monitro, ni chafwyd cynllun i ymdrin â'r canlyniadau, ac o ganlyniad, rydym yn dal i deimlo effeithiau'r cyfnod hwnnw heddiw. Ni allwn adael i'r un camgymeriadau gael eu gwneud eto.
Nawr, wrth gwrs, fel y noda'r cynnig, un ffordd y gallwn liniaru rhai o effeithiau posibl sero net fyddai drwy incwm sylfaenol. Bydd sicrhau sylfaen i bobl gyda'r nod o'u hatal rhag syrthio i dlodi yn mynd yn bell. A chyda llaw, ochr yn ochr â pholisi a chynllun peilot Llywodraeth Cymru, nid oes angen inni edrych yn bell am enghreifftiau o sut y byddai hyn yn gweithio. Rydym wedi cael math o incwm sylfaenol i ffermwyr ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae'n gysyniad profedig ar gyfer cefnogi sectorau a'r gweithwyr yn y sectorau hynny, a hoffwn annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Bydd y newid i sero net yn orchest enfawr. Rhaid iddo ddigwydd. Nid oes dadl gredadwy yn erbyn ei weld yn digwydd, ond rhaid inni sicrhau bod cymunedau'n cael eu diogelu a'u cefnogi tra bydd yn digwydd.
Yn olaf, Gadeirydd, hoffwn ddiolch i Jane Dodds am gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n falch iawn ei bod wedi gofyn i mi gyd-gyflwyno.