Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Gadeirydd, roedd ein gwaith ymgysylltu ar y gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cynnwys tair elfen: y digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent; fel y crybwyllwyd, gweithdy gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith.
Fodd bynnag, cyn troi at yr heriau a’r blaenoriaethau a nodwyd yn ystod y sesiynau hyn, hoffwn fynegi fy siom fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi penderfynu gohirio cyhoeddi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf tan 13 Rhagfyr fan bellaf neu o fewn pedair wythnos i gyllideb hydref Llywodraeth y DU. Er fy mod yn cydnabod y rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r dull hwn, mae’n destun gofid y bydd hyn yn golygu llai o amser i randdeiliaid ymgysylltu â galwadau’r pwyllgor am dystiolaeth a sesiynau craffu. Serch hynny, rydym yn ddiolchgar fod y Gweinidog yn barod i ddiweddaru’r amserlen pan fydd dyddiad cyllideb hydref Llywodraeth y DU yn cael ei gyhoeddi. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd y Gweinidog i ymgysylltu â ni ar y cam rhag-gyllidebol, ac edrychwn ymlaen at weld sesiynau o’r fath yn cael eu cynnal yn gynnar yn nhymor yr hydref.
Gadeirydd, hoffwn siarad yn gyntaf am yr heriau a nodwyd. Nid fydd yn syndod i’r Aelodau pan ddywedaf fod y rhai y buom yn siarad â hwy oll yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys pwysau chwyddiant; yr argyfwng costau byw; yr argyfwng hinsawdd; a'r adferiad ar ôl COVID, neu fel y dywedodd rhanddeiliad wrthyf yn Llanhiledd, rydym yng nghanol 'storm berffaith'. Yn Llanhiledd, dywedodd pobl o wasanaethau'r rheng flaen wrthym ei bod yn costio mwy i wneud yr un peth, ac nad yw llawer o unigolion a sefydliadau yn gwybod sut i ymdopi â chostau cynyddol. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod cynaliadwyedd a fforddiadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn dod yn fwy a mwy heriol, ond eu bod hefyd yn fwyfwy hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae’r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid y buom yn siarad â hwy hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r argyfwng costau byw, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a’r effaith y mae’r bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn ei chael ar ein cymdeithas.
Gan droi at flaenoriaethau penodol, nododd yr Aelodau o’r Senedd Ieuenctid iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau i bobl ifanc, a mesurau i liniaru’r argyfwng costau byw fel blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Daeth themâu tebyg i’r amlwg o drafodaethau yn Llanhiledd, a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw; cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus; creu Cymru wyrddach; gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc; ac effaith y cynnydd mewn costau trafnidiaeth ar draws gwahanol sectorau. Yn y grwpiau ffocws i ddinasyddion, addysg a phlant a phobl ifanc a oedd yn cael eu blaenoriaethu amlaf gan gyfranogwyr, gydag iechyd a gofal cymdeithasol heb fod ymhell ar eu holau.
O’r trafodaethau hynny, gallwn grynhoi’r materion hyn yn chwe maes blaenoriaeth allweddol. Yn gyntaf, mae angen inni wneud pob ymdrech i ddarparu cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf cyn gynted â phosibl. Mae angen cymorth wedi’i dargedu ar y rheini mewn tlodi, ac yn anffodus, mae’r rhain bellach yn cynnwys pobl sy’n gweithio’n hynod o galed i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas, fel gofalwyr di-dâl a gwarchodwyr plant. Dywedodd pobl wrthym nad oedd yn iawn nad oedd y rheini a oedd yn gofalu yn cael gofal eu hunain, ac mae taer angen strategaeth arnom i sicrhau ein bod yn gofalu am y rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Yn ail, cynllunio'r gweithlu'n well. Dywedwyd wrthym y bu cenhedlaeth o danfuddsoddi mewn hyfforddiant a gweithlu’r sector cyhoeddus a bod angen strategaeth gydlynus ar gyfer y gweithlu i sicrhau gwasanaeth cyhoeddus gwydn yng Nghymru ac i osgoi gorflinder a lefelau salwch uchel ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus.
Yn drydydd, buddsoddi mewn seilwaith ieuenctid. Fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi pobl ifanc drwy ddarparu cymorth i osgoi cau canolfannau ieuenctid a darparu trafnidiaeth am ddim i wella rhagolygon hyfforddiant a gwaith, a rhagolygon cymdeithasol.
Yn bedwerydd, cynyddu cyllid cyfalaf. Dywedodd y rheini ar y rheng flaen wrthym fod angen parhaus i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion ac ysbytai a seilwaith sylfaenol o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
Nesaf, hoffem weld gwell defnydd o ddata i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol a chydgysylltiedig. Mae costau uwch yn golygu bod angen inni wneud y gorau o’r hyn sydd gennym er mwyn gwneud ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud y gorau o’r data sydd ar gael, fel y gellir cynllunio gwasanaethau’n effeithlon. Gallai cynyddu llythrennedd digidol mewn cymunedau tlotach hefyd fod yn ffordd o sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn cael eu darparu’n lleol, lle mae’r angen ar ei fwyaf.
Yn olaf, cyllid gwyrdd sefydlog. Ar newid hinsawdd, mae angen i Lywodraeth Cymru roi eu harian ar eu gair a darparu cyllid pwrpasol i gyflawni eu targedau sero net.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’n hawdd iawn llunio rhestrau o ddymuniadau gwario, ond mae'n llawer anoddach nodi meysydd lle gellid lleihau gwariant. O ganlyniad, roeddem hefyd yn awyddus i glywed gan gyfranogwyr ar y mater hwn. Cydnabu’r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid y buom yn siarad â hwy, er ei bod yn anodd iawn tynnu cyllid yn ôl o feysydd, fod angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu meysydd lle ceir angen gwirioneddol. Er enghraifft, nododd y cyfranogwyr fuddsoddiad yn y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, ond roeddent yn teimlo na ddylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer y meysydd hyn uwchlaw darparu gwasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd a lles y cyhoedd.
Clywsom safbwyntiau diddorol am drethi. Yn nodedig, nid oedd yr holl Aelodau o’r Senedd Ieuenctid yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am godi rhywfaint o’r arian y mae’n ei wario. Yn ystod y grwpiau ffocws, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn erbyn cynyddu treth incwm ar gyfer y rheini sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol ac yn teimlo y dylid cyfeirio unrhyw gynnydd mewn trethi at y rheini ag incwm uwch neu fusnesau mawr. Er y mynegwyd barn debyg yn ystod ein digwyddiad i randdeiliaid, nodwyd y gallai trethiant pellach ar fusnesau mawr arwain at fusnesau’n symud o Gymru. Gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i’r Gweinidog, a hoffwn ei hannog i ymchwilio i ffyrdd y gellir gwella ymwybyddiaeth o’n pwerau codi trethi yng Nghymru.
Felly, wrth imi wneud y cynnig hwn yn fy enw i ar ran y pwyllgor, edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau’n achub ar y cyfle i amlinellu i’r Gweinidog a’r Pwyllgor Cyllid beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Diolch yn fawr.