Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Cyllid, yn ddiolchgar ichi am ddod i Lanhiledd, wrth gwrs, i wneud rhywfaint o'ch gwaith, ond hefyd am gynnal y ddadl hon y prynhawn yma, sydd, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol wrth osod terfynau'r ddadl a gawn ar gyllideb Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.
Yn wahanol i eraill, heb ddymuno bod yn anfoesgar, nid wyf yn rhannu barn y pwyllgor ar yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth gyhoeddi cyllideb yn y flwyddyn sydd i ddod, oherwydd credaf ein bod yn wynebu, o bosibl, yr heriau ariannol anoddaf a wynebwyd gennym ers yr argyfwng yn 2008, a chredaf ei bod yn iawn ac yn briodol fod y Llywodraeth yn cymryd amser i ystyried yr heriau hynny ac yn cyhoeddi cyllideb ddrafft pan fydd yn gallu gwneud hynny a phan fydd mewn sefyllfa i drafod y materion hynny gyda ni. Felly, nid wyf yn beirniadu'r Gweinidog am ohirio'r gyllideb o gwbl ar hyn o bryd.
Ond mae'n rhaid inni ddeall, pan oeddem yn trafod y materion cyllid a gwariant hyn yn 2008, mai dim ond trafod cyllideb wariant a wnaem. Rydym yn awr yn trafod cyllideb lle rydym hefyd yn gyfrifol am godi rhan o'n hincwm ein hunain, ac mae hynny'n gwneud y ddadl hon yn sylfaenol wahanol i'r un a gawsom dros ddegawd a hanner yn ôl, oherwydd ers hynny rydym wedi gweld—. Drwy gyni, rydym wedi gweld diffyg twf, rydym wedi gweld diffyg twf mewn cynnyrch domestig gros, rydym wedi gweld diffyg twf mewn incwm. Ac nid yn unig ein bod wedi gweld diffyg twf mewn incwm, ond rydym wedi gweld newidiadau i ddosbarthiad incwm, lle mae'r bobl hynny sydd yn y degradd uchaf o incymau wedi gweld mwy o gynnydd na'r rhai sy'n cael llai, ac o ganlyniad bydd llai o arian ar gael, rwy'n credu, yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd mwy o heriau'n wynebu pobl yng Nghymru. Felly, sut rydym ni fel Senedd a sut y mae Llywodraeth yn cyhoeddi'r wybodaeth hon, a sut rydym yn mynd i'r afael â'r heriau hynny? Rwy'n credu mai sut rydym yn mynd i'r afael â heriau ein heconomi, ein cymunedau ac yna ein pobl yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu. Ac yn hytrach na rhestru gofynion gwariant, credaf fod angen inni gael dadl gyfoethocach, dadl fwy, ynglŷn â sut rydym yn codi'r arian hwn a sut rydym yn codi'r arian er mwyn cyflawni'r rhaglenni gwariant hynny.
Rwy'n gweld heriau go iawn ar hyn o bryd. Rydym wedi clywed llawer am godi'r gwastad gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod hwnnw ar ben bellach. Rydym wedi gweld hynny yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Slogan ydoedd o'r cychwyn, nid polisi, ond erbyn hyn rydym wedi'i weld yn cael ei daflu o'r neilltu mewn ras i'r gwaelod o ran toriadau treth a gofynion gwario. Gofynnais i'r Gweinidog, os caiff unrhyw un o'r ymgeiswyr Torïaidd sy'n ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd ei ethol, sut y bydd y toriadau incwm o doriadau treth yn effeithio ar gyllideb Cymru, oherwydd os ydym yn dweud bod angen mwy o arian arnom i fynd i'r afael â'r holl flaenoriaethau gwahanol hyn, ac rwy'n cytuno â phob un ohonynt, sut y byddwch yn gwneud hynny gyda chyllideb sy'n lleihau? Sut rydych yn ei wneud mewn cyllideb sydd wedi bod yn gostwng oherwydd y toriadau treth a addawyd gan Lundain, a wedyn, pan na allwch godi trethi oherwydd effaith y dirwasgiad, a chostau byw, ar ein sylfaen drethi ein hunain?
A sut y cawn arian yn lle'r cronfeydd UE a gollwyd? Roeddwn yn siarad â Sefydliad Prydeinig y Galon heddiw am effaith colli arian yr UE ar ymchwil yng Nghymru. Nawr, mae prifysgolion yng Nghymru yn draddodiadol wedi dibynnu, wrth gwrs, ar raglen Horizon, ond mae anfedrusrwydd a dichell Llywodraeth y DU wrth ymdrin â'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y gallem yn hawdd golli mynediad at y rhaglenni hynny. Felly, sut y byddwn yn cefnogi prifysgolion yn y dyfodol? A hefyd, Lywydd dros dro, effaith Brexit ar ein heconomi: gwyddom fod Brexit yn cael effaith ar ein gallu i dyfu ein heconomi. Gwyddom ei fod yn cael effaith ar gwmnïau a phobl, gwyddom y bydd yn cael effaith ar ein cyllideb, beth fydd yr effaith honno, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn deall y pethau hyn. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn deall effaith chwyddiant ar wasanaethau sydd wedi'u darparu. Beth fydd effaith chwyddiant ar y GIG neu ar addysg? Beth fydd effaith chwyddiant ar gyllidebau llywodraeth leol? Mae Brexit wedi bod yn drychineb i'r wlad hon. Mae'n drychineb barhaus a dyna sydd wrth wraidd llawer o'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu. Ond mae'n rhaid inni ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn wynebu'r pethau hyn. Felly, heb geisio profi eich amynedd, Lywydd dros dro, hoffwn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o wybodaeth—credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn dda iawn, fel y mae'n digwydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn cyhoeddi gwybodaeth i gefnogi ei chyllideb—ond hoffwn weld mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi'n gynharach i'n galluogi i ddeall yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac yna i wneud penderfyniadau gwleidyddol ar ein blaenoriaethau o ganlyniad i'r ddealltwriaeth honno. Diolch yn fawr iawn.