Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am roi cyfle i ni drafod y mater yma. Dwi hefyd eisiau diolch i'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru oherwydd y bydd e, gobeithio, yn sicrhau y gallwn ni edrych ymlaen at raglen gyffrous a thrawsnewidiol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Y peth amlwg cyntaf y byddwn i'n gofyn amdano yw sicrhau bod gwariant 2023-24 yn ymateb i ymrwymiadau y cytundeb cydweithredu hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y polisïau a fydd, wrth gwrs, yn gwella bywydau pobl Cymru yn cael y gefnogaeth ariannol i lwyddo ac i flodeuo er mwyn sicrhau, fel y mae'r Llywodraeth yn ein hatgoffa ni, ein bod ni yn gwireddu Cymru decach, wyrddach, gryfach. Ond fe fyddwn i'n dweud, yn sgil y cytundeb cydweithredu, Cymru hyd yn oed yn fwy teg na hynny, hyd yn oed yn fwy gwyrdd na hynny a hyd yn oed yn fwy cryf na hynny. Felly, dyna fe—dyna'r pwynt cyntaf roeddwn i eisiau ei wneud.
Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn dweud wrthym ni fod y ffocws ar ddefnyddio, neu symud tuag at ddefnyddio, dulliau ataliol o lywodraethu, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, rŷn ni yn ei gefnogi, ond er mwyn cyflawni hynny'n effeithiol, mae'n rhaid, wrth gwrs, mynd drwy'r cyfnod pontio yma, onid oes e, o fuddsoddi mewn meysydd ataliol ar yr un llaw, tra ein bod ni dal, wrth gwrs, yn talu am ddelio gyda chanlyniadau peidio â bod wedi buddsoddi yn hynny yn ddigonol yn y gorffennol. Mae’r pontio yna yn mynd i greu tensiwn a phwysau pan fo'n dod i gyllidebu. Ond mae’n rhaid i gyllid, dwi'n meddwl, ddilyn y bwriad. Er bod arallgyfeirio cyllidebau o un ffocws i'r llall yn anodd, rŷn ni i gyd yn gwybod mai talu ffordd byddai hynny yn gwneud yn y pen draw. Felly, dwi yn gobeithio y gwelwn ni gynnydd pellach, cynnydd sylweddol yn y pontio neu'r symud yna o ran ffocws y gwariant yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mi fydd rhai o’m cyd-Aelodau ar y meinciau yma yn amlinellu rhai o’r materion penodol rydyn ni eisiau eu hamlygu yn y ddadl yma, ond gwnaf i jest cyffwrdd gydag un neu ddau yn yr amser sydd gen i y prynhawn yma.
Rŷn ni, wrth gwrs, yn awyddus i sicrhau gwell tâl ac amodau i staff yn y sector cyhoeddus—rhywbeth dwi'n gwybod y mae nifer ohonom ni'n ei rannu ar draws y Siambr fan hyn. Ac er gwaethaf Llywodraeth Geidwadol sydd ddim yn mynd i'r afael â hyn, sy'n golygu felly bod nifer o'r gweithwyr yma yn wynebu toriad cyflog mewn termau real, wrth gwrs, a'i gwneud hi'n anoddach i gael dau ben llinyn ynghyd, mae'r realiti sy'n ein hwynebu ni nawr yn un o haf o anfodlonrwydd, streiciau posibl ac yn y blaen. Mi fyddwn i felly yn awyddus i glywed gan y Gweinidog beth yw ei bwriad hi o safbwynt cynllunio ar gyfer codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Byddai rhai yn dadlau, os gallwn ni symud yn gynt, y byddem yn awyddus i wneud hynny eleni. Ond drwy gydnabod ffocws y ddadl, dwi'n meddwl, yn sicr, mae yna gyfle nawr i fynd i’r afael â hyn a dangos bwriad clir yn y flwyddyn nesaf.
Y peth arall amlwg, wrth gwrs, yw’r ymateb ehangach i’r creisis costau byw. Rŷn ni'n gwybod bod angen helpu i amddiffyn cartrefi rhag dyledion a'r costau maen nhw'n eu hwynebu. Mae chwyddiant, fel y mae, yn mynd i barhau i godi; costau syfrdanol ynni erbyn hyn. Rŷn ni eisoes yn gwybod fod 71 y cant o bobl Cymru yn dweud eu bod nhw'n fwriadol, o safbwynt ansawdd y bwyd y maen nhw'n ei fwyta, wedi gostwng yr ansawdd er mwyn trio ymateb i’r creisis yma. Ac mae hynny wrth gwrs yn gwneud y broses o lywodraethu yn ataliol hyd yn oed yn fwy anodd, achos rŷn ni'n symud i'r cyfeiriad anghywir cyn cychwyn. Y cap ar brisiau ynni, rŷn ni wedi sôn amdano fe. Dwi'n meddwl yn y gyllideb nesaf, mae angen edrych i ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen sydd ar incwm isel, sy'n agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys, er enghraifft, i gael credyd pensiwn. Mae hwnna'n rhywbeth rydyn ni'n awyddus i'r Llywodraeth i edrych arno fe.
Jest i gloi, er mwyn cadw hwn yn fyr ar gais y Dirprwy Lywydd dros dro, gwnaf i jest gyfeirio at y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn ag amserlen y gyllideb o safbwynt craffu fan hyn yn y Senedd. Mae e'n rhywbeth rydyn ni'n ei wynebu bob blwyddyn. Dwi'n meddwl mai hon yw'r bedwaredd flwyddyn lle mae craffu wedi cael ei gyfyngu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, oherwydd wrth gwrs ein dibyniaeth ni ar amserlenni digwyddiadau ffisgal San Steffan. Dwi'n meddwl ei bod hi yn gais teg nawr i ailedrych ar y protocol, oherwydd tra bod amgylchiadau eithriadol o gyfeiriad San Steffan yn un peth, buaswn i'n dadlau bod dilyn y protocol yng Nghymru nawr yn amgylchiadau eithriadol oherwydd dydy e byth yn digwydd, a dwi'n meddwl ei bod hi'n amserol iawn i edrych ar hynny o'r newydd. Diolch.