8. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:41, 13 Gorffennaf 2022

Diolch am y cyfle i gymryd rhan. Un o'r pethau roeddwn i'n meddwl oedd yn ddifyr iawn—ac mae hyn eisoes wedi cael ei gyfeirio ato—oedd barn pobl ifanc a Senedd Ieuenctid Cymru. Dwi'n meddwl bod hyn yn cael ei ategu yn y pethau sydd wedi cael eu rhannu gyda mi, yn sicr fel Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, o ran cost trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol. Mae Ruben Kelman wedi ysgrifennu at nifer ohonom ni, yn broactif iawn fel Aelod o'r Senedd Ieuenctid, ond wedi rhannu bod cost trafnidiaeth gyhoeddus, i'r rheini efallai sydd ddim yn gymwys ar gyfer cael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'r ysgol, yn golygu bod hyn yn cael effaith ar bresenoldeb.

Mi ategodd Jayne yr holl bethau sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn gweld, o ran yr holl sylwadau ddaeth fan yna, bod cost cynyddol trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth sydd angen i ni fod yn edrych arno fo. Efo'r argyfwng costau byw, mae'r ffaith ein bod ni yn cael tystiolaeth rŵan bod yna bobl ifanc ddim yn gallu mynd i'r ysgol oherwydd cost trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth y byddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth edrych ar fyrder arno, oherwydd dwi'n meddwl os nad ydyn nhw yn yr ysgol, dydyn nhw ddim yn mynd i elwa o'r holl gyfoeth o brofiadau eraill, ac mae hon yn hawl sylfaenol gan ein pobl ifanc ni.  

Hefyd, mi oedd yna gyfeiriad o ran y rhaglenni cyfoethogi profiadau yn yr haf, sydd mor bwysig. Yn aml, y rhwystr mawr o ran y rheini o deuluoedd sydd yn wynebu'r argyfwng costau byw ydy cost trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y gweithgareddau hyn. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n falch iawn bod y buddsoddiad gan y Llywodraeth yn y rhaglenni cyfoethogi hyn, megis yr Haf o Hwyl ac ati, ond os nad ydy'r bobl mwyaf bregus yn medru eu cyrraedd nhw, yna sut mae pawb yn mynd i fanteisio? Felly, wrth i chi edrych ar gyllideb flwyddyn nesaf, os gallwn ni edrych ar rywbeth i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol o ran plant a phobl ifanc, fel eu bod nhw'n gallu elwa o'r holl bethau rydyn ni yn buddsoddi ynddyn nhw, dwi'n meddwl byddai hynny o gymorth anferthol. Diolch.