8. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:27, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, a chefnogaf y sylwadau a wnaed gan Gadeirydd ein pwyllgor, ac yn croesawu hefyd ein Haelodau o’r Senedd Ieuenctid yma heddiw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi wynebu cyfres o heriau enfawr, o'r pandemig i'r pwysau chwyddiant presennol, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw. Mae'n bwysicach nag erioed, felly, ein bod yn gwrando ar farn pobl Cymru a bod blaenoriaethau'r bobl yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

Roedd yn amlwg o’r trafodaethau fod mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a chefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn yn fater pwysig y mae’n rhaid i’r gyllideb fynd i’r afael ag ef ar fyrder. Croesawodd nifer o randdeiliaid gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda’r argyfwng costau byw, ond roeddent yn teimlo nad oedd y cymorth yn cyrraedd sectorau penodol, yn enwedig gofalwyr di-dâl. Cydnabuwyd hefyd fod angen ehangu cronfeydd dewisol, yn enwedig fel bod pobl sy’n ennill mwy na’r trothwyon budd-daliadau amrywiol ond sydd mewn sefyllfa ariannol fregus yn gallu cael cymorth mawr ei angen.

Mewn perthynas â chostau byw a phwysau chwyddiant, codwyd ystod eang o bryderon ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Er enghraifft, dywedodd rhanddeiliad,

'y bydd Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau’n debygol o orfod wynebu dewisiadau annymunol.'

Ceir pryderon gwirioneddol y bydd gwasgfa ar y cyllidebau yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, ac y bydd effeithiau parhaus y pandemig ynghyd â phrinder staff yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn wynebu llawer iawn o bwysau ac anghenion ariannu y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy, yn syml iawn, os ydym am ddechrau mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Felly, fel rhan o’r gyllideb, mae gwir angen cynllun uchelgeisiol wedi’i gostio’n llawn i recriwtio mwy o staff mewn meysydd fel ysgolion, gofal cymdeithasol a GIG Cymru i gynyddu gwytnwch gwasanaethau ac i fynd i’r afael â’r materion strwythurol. Hefyd, mae'n rhaid cael strategaeth ariannu fwy hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Y mater olaf yr hoffwn ei godi, Ddirprwy Lywydd, yw addysg, gan inni glywed gan rai o'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ynghylch eu pryderon ynghylch dal i fyny ag addysg a gollwyd o ganlyniad i’r tarfu dros y blynyddoedd diwethaf, tra bo rhanddeiliaid eraill wedi nodi bod cost cludiant ysgol wedi cynyddu'n esbonyddol. Felly, mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn addysg, yn enwedig er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Yn ychwanegol at hynny, bu galwadau ar y Llywodraeth i harneisio potensial mwy o ymchwil ac arloesi er mwyn cryfhau economi Cymru a hybu sgiliau. Yng ngoleuni hyn, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gefnogi’r sectorau AB ac AU i'r graddau mwyaf sy'n bosibl a buddsoddi yn eu sylfaen sgiliau?

I gloi, Lywydd dros dro, nid wyf mewn unrhyw fodd yn bychanu maint yr her sy’n wynebu'r Gweinidogion. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar ein cymunedau ac mae angen ein cymorth arnynt. Ac wrth gwrs, nid yw’r Llywodraeth yn gweithredu ar ei phen ei hun. Fel y gwnaethom yn ystod y pandemig, mae'n rhaid inni weld cymorth gan Lywodraeth y DU sy’n cyfateb i faint y problemau sy’n ein hwynebu. Ond mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud y pethau iawn gyda'i chyllideb nesaf, ac yn gwrando ar farn cymunedau pan fydd yn penderfynu ar ei blaenoriaethau gwariant. Diolch.