Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch, Cadeirydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu i’r ddadl heddiw. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i’r Senedd ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru cyn iddi gyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y safbwyntiau a godwyd heddiw.