Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 11 Medi 2022.
Diolch, Llywydd, ac mae grŵp fy mhlaid a minnau'n cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd y prynhawn yma. Wrth glywed y newyddion ddydd Iau, ar ôl gweld lluniau o'r Frenhines yn amlwg yn derbyn y Prif Weinidog newydd a'i rhoi hi yn ei swydd, daeth newyddion nad oedd yr un ohonom yn credu y byddai'n digwydd o fewn 48 awr i'r lluniau hynny gael eu cyhoeddi. Yn wir, safodd oes o wasanaeth o'n blaenau yn y lluniau hynny, yn 96 oed ac yn drist iawn, yn ei llesgedd, a gallem i gyd weld ei bod yn credu mai ei dyletswydd oedd derbyn y Prif Weinidog, a phenodi'r Prif Weinidog, fel y gallai'r wlad gael y sefydlogrwydd a'r parhad hwnnw y mae ei theyrnasiad wedi ei roi ers 70 mlynedd, ac mae ein cydymdeimlad yn mynd i'r teulu a phawb sy'n coleddu'r atgof am Ei Mawrhydi y Frenhines.
Mae'n ffaith, pan anwyd hi, nad oedd hi wedi ei thynghedu i eistedd ar yr orsedd, oherwydd roedd ei thad a'i mam, Dug a Duges Efrog, yn amlwg, yn ail yn y llinach am y goron, a thaflodd yr ymddiorseddiad y teulu i sylw pawb ac, yn y pen draw, i olyniaeth yr orsedd yn y 1950au. Ond doedd dim gwrthwynebiad, dim petruso, dim cwyno; roedd Ei Mawrhydi bob amser yn ymroi ei hun yn gyntaf i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd dros y wlad, y Gymanwlad, ac fel yr oedd bryd hynny, yr ymerodraeth. Fel y pwysleisiodd ei haraith yn 1947, gwasanaeth cyhoeddus yn bennaf oll oedd yn ei meddyliau. Ac yn arbennig, yma yng Nghymru, rydym ni wedi gweld hynny dro ar ôl tro, gyda'r holl sefydliadau y bu hi'n noddwr iddyn nhw, ac yn y pen draw, wedi eu cefnogi, boed yn sefydliadau mawr neu fach, fel y Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol, Undeb Rygbi Cymru, a phentrefi a threfi niferus, yn eu cefnogi i aeddfedu a thyfu yn eu deinameg. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau, safwn yn dalach heddiw o fod â theyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines a'r 70 mlynedd a roddodd i'r orsedd ac i'r wlad wych hon. Ac mae'n ffaith, yn y pen draw, pan edrychwch yn ôl, ni fydd yr un ohonom mae'n debyg yn gweld teyrnasiad o'r fath eto yn ein hoes ni, a'r fath ymroddiad i wasanaeth.
Cafwyd enghraifft o'r gwasanaeth hwnnw pan ymwelodd â dioddefwyr y bomio ofnadwy ym Manceinion yn ddiweddar. Byddai llawer ohonom yn cael ein syfrdanu gan y lluniau o'r bomio hwnnw ym Manceinion, ond roedd Ei Mawrhydi, wrth wneud pawb yn gartrefol pan oedd hi'n siarad â nhw yn ysbyty'r plant ym Manceinion, yn canolbwyntio ar y dioddefwr a pham bod y dioddefwr hwnnw eisiau mynd i'r cyngerdd a beth yr oedd yn ei ddisgwyl pan gyrhaeddai y cyngerdd, yn hytrach na'i aflonyddu drwy ofyn iddo ail-fyw'r peth ofnadwy yr oedd wedi mynd trwyddo yn y bomio yng nghyngerdd Manceinion. Ac fe wnaeth hynny bwysleisio i mi mai dyma ddynes a oedd mewn cysylltiad â'i phobl. Rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â'i Mawrhydi ar sawl achlysur, a phob tro roedd ganddi'r ddawn unigryw honno o allu canolbwyntio arnoch chi fel unigolyn, eich rhoi chi yng nghanol y sgwrs honno a gwneud i chi deimlo mai chi yw'r person, yr unig berson, yn siarad â hi yn yr ystafell honno.
Ac mae'n fy atgoffa o stori adeg agor y Senedd yn 2011, pan oedd eich rhagflaenydd, Rosemary Butler, yn dangos Ei Mawrhydi o gwmpas, ac fe gyflwynodd hi fi i'w Mawrhydi, a dywedodd, 'Dacw'r ffermwr drwg yr wyf yn ei geryddu'n gyson.' Dywedodd Ei Mawrhydi, mewn amrantiad a'i llygaid yn pefrio, 'Wel, mae pob ffermwr yn ddrwg, onid yw?' Unwaith eto, roedd y gostyngeiddrwydd hwnnw a'r gallu hwnnw i'ch gwneud chi'n gartrefol pan oeddech yn siarad â hi wir yn amlygu person oedd yn poeni am y bobl, oedd â ffydd a hyder ynddi hi a'i gweithredoedd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn datblygu yr holl ffordd o oes y stêm i oes drydan o ran trenau, o'r telegram i'r rhyngrwyd. Gallwn bwyso botwm heddiw a gweld y lluniau o'n blaenau, cyn hynny clywsom am y coroni gan bobl a oedd yn fyw adeg y coroni—byddai'n rhaid iddyn nhw fynd at eu cymydog drws nesaf, eistedd gyda choesau wedi'u croesi a gwylio'r teledu bach du a gwyn hwnnw. Heddiw, mae unrhyw un ohonom ni, er mwyn cael y newyddion yna, i gael y lluniau yna, yn gallu tynnu ffôn allan o'r boced a gweld y lluniau hynny o'n blaenau ni yn syth. Ond eto, roedd hi'n frenhines a barhaodd yn berthnasol drwy'r blynyddoedd, drwy'r 70 mlynedd o wasanaeth. A gadewch i ni beidio ag anghofio, trwy waeledd ei diweddar dad, y Brenin, iddi gymryd baich nerthol iawn ar ei hysgwyddau, i gario'r frenhiniaeth drwy gyfnod gwaeledd ei thad, a doedd hi byth yn cwyno. Rwy'n credu y gallem ni i gyd gymryd geiriau Paddington Bear yn y Jiwbilî, pan ddywedodd, ar ddiwedd y clip gwych hwnnw, 'Diolch am bopeth yr ydych chi'n ei wneud'. Wel, fe newidiaf hwnnw i 'Diolch am bopeth y gwnaethoch chi'. Duw gadwo'r Brenin.