Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 11 Medi 2022.
Diolch yn fawr iawn. Ar ran fy mhlaid i, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf ar ôl colli Elizabeth II. Bu Elizabeth II yn un o'r ychydig bethau cyson yn ein bywydau ni i gyd yn ystod ei theyrnasiad 70 mlynedd. Wrth i'r byd o'n cwmpas newid, roedd Elizabeth II yn fythol bresennol drwyddi draw; roedd hi'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i lawer. Mae marwolaeth Elizabeth II heb amheuaeth yn nodi diwedd pennod hir iawn ac yn wir arloesol yn hanes ein cenhedloedd. Roedd Elizabeth II yn atgof byw o'n gorffennol cyfunol, yn arwydd cyson o ddyletswydd, dewrder, cynhesrwydd a thosturi, nid yn unig yma yn y DU, ond yn fyd-eang.
Drwy gydol ei hoes, gwasanaethodd Elizabeth II y wlad gyda'r ymroddiad, anrhydedd ac urddas mwyaf. Roedd ei ffydd yn ddeinamig ac yn gryf. Roedd hi'n fenyw yn gosod esiampl i bob un ohonom ni ferched, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ar draws y byd.
Cefais y fraint fawr o'i chyfarfod unwaith yn unig, adeg agor y chweched Senedd yma fis Hydref diwethaf, ac mae fy hanesyn byr yn wir yn un am ffermio, fel arweinydd yr wrthblaid. Cefais fy nghyflwyno fel yr Aelod sy'n cynrychioli canolbarth a gorllewin Cymru, ardal fawr yng Nghymru, a dwi'n credu fy mod wedi dweud rhywbeth tebyg i, 'Mae gennym ni fwy o ddefaid na phobl yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli'. Ei hymateb craff a chyflym i mi oedd, 'Wel, sut ydych chi'n gwybod beth yw eu barn nhw?'
Mae ei hanerchiad i'r Gymanwlad a hithau dim ond yn 21 oed, pan ddywedodd:
'Rwy'n datgan o'ch blaen chi i gyd y bydd fy holl fywyd, boed yn hir neu'n fyr, yn cael ei neilltuo i'ch gwasanaethu chi', yn ethos ac egwyddor rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yma yn eu hanwylo. Ac mae esiampl Elizabeth II o wasanaeth cyhoeddus yn uchelgais i ni i gyd. Mae ei hanerchiad i'r wlad yn ystod rhan gynnar y pandemig coronafeirws—y byddem i gyd yn cyfarfod eto—yn dangos i ba raddau yr oedd y Frenhines yn adlewyrchu hwyliau cenedlaethol i lawer. Yn yr un cywair, bydd llawer yn cofio ymweliad Elizabeth II ag Aberfan ym 1966, ac yn dwyn i gof hithau'n rhannu'r galar a deimlwyd gan bobl Aberfan. Fel y dywedodd rhywun ar ôl y trychineb,
'Roedd hi'n teimlo fel ei bod hi gyda ni o'r dechrau.'
Roedd hi'n wladweinyddes nad oedd ei thebyg.