1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 11 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:57, 11 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Ar ran etholwyr Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwy'n adleisio geiriau, sylwadau a theimladau'r rhai sydd wedi cyfrannu heddiw yn fawr. Mae teyrngedau i'w diweddar Mawrhydi'r Frenhines wedi dod o bedwar ban byd, ac mae llawer wedi siarad yn fwy huawdl ac wedi ysgrifennu'n fwy huawdl am Ei Mawrhydi a'i theyrnasiad nag y gallwn i erioed, felly ei geiriau hi a ddefnyddiaf i'w disgrifio.

Ei chryfder a'i hangor oedd ei diweddar ŵr Dug Caeredin, ac felly hefyd hi oedd cryfder ac angor y wlad hon am 70 mlynedd. Mae'r cynnig yn cyfeirio at ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi, yn enwedig at elusennau a sefydliadau. Ers 1957, mae Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi bod yn noddwr ymroddedig i glybiau ffermwyr ifanc a'r cyfleoedd mae'r mudiad yn eu darparu i bobl ifanc mewn rhannau gwledig o'r wlad. Fe wnaeth y Frenhines gwrdd ag aelodau o'r CFfI dros ei blynyddoedd lawer o wasanaeth, a chyflwyno gwobrau yn y sioe frenhinol. Fel cadeirydd CFfI Sir Benfro, rwy'n diolch i'w Mawrhydi am ei nawdd i'r sefydliad elusennol hwn, ar ran aelodau o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y wlad. Gadewch i ni hefyd beidio ag anghofio ychwaith y cysylltiad arbennig sydd gan y frenhiniaeth â Sir Benfro, â gwreiddiau hynafiaethol yn ymestyn yn ôl i enedigaeth y Brenin Tuduraidd Harri VII yng nghastell Penfro, ac, wrth gwrs, wrth ochr Ei diweddar Fawrhydi gydol ei hoes oedd ei chymdeithion mwyaf ffyddlon ac anwesol, ei chorgwn Penfro.

Byddaf yn cofio Ei Mawrhydi gyda pharch ac edmygedd dwys, ond wrth i ni nodi bywyd a gwasanaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines, rydym yn croesawu Ei Fawrhydi'r Brenin Charles III i'w orsedd. Yn gynharach yn yr haf, cefais y pleser o groesawu Ei Fawrhydi, Tywysog Cymru ar y pryd, i dref Arberth yn fy etholaeth. Roedd plant ysgol lleol yn ei gyfarch gyda chân, pobl ar y strydoedd, ac fe gafodd rhai busnesau eu dewis iddo ymweld â nhw. Cymerodd y Tywysog ar y pryd ei amser, heb frysio, i siarad ac ysgwyd llaw â llawer o'r cannoedd o bobl a oedd wedi dod i'w gyfarch. Bu'n siarad gyda chôr yr ysgol a'u harweinydd, a diolchodd iddyn nhw am eu perfformiad. Ac nid yn unig y gwnaeth ymweld â'r busnesau hynny a oedd wedi'u dewis, ond fe wnaeth, yn gwbl gysurus, ymweld ag eraill nad oedd wedi'u dewis. I'r Brenin, roedd hwn yn un o gannoedd, o bosib hyd yn oed miloedd, o ymweliadau yr oedd Ei Fawrhydi wedi'u cynnal, ond, i'r bobl a ddaeth y diwrnod hwnnw i'w weld, roedd yn un diwrnod na fydden nhw byth yn ei anghofio. Mae gwaddol ymroddiad anhunanol Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus, i'r bobl, yn parhau yn gadarn drwy ei mab. Duw gadwo'r Brenin.