Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Medi 2022.
Wel, diolch eto i arweinydd yr wrthblaid am hynna. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r cynllun ail gynnig a oedd gennym ni yma yng Nghymru dros ddegawd yn ôl, ar ôl cymryd rhan fawr ynddo ar y pryd. Rydym ni eisoes yn defnyddio capasiti y tu allan i'r ardal lle mae rhywun yn byw er mwyn gallu cyflymu triniaeth lle bynnag y gallwn. Rydym ni'n defnyddio capasiti yn y sector di-elw. Rydym ni'n annog byrddau iechyd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cydweithio os ydyn nhw'n gallu, felly os oes capasiti mewn bwrdd iechyd cyfagos, mae hwnnw cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion hefyd.
Roedd anfanteision i'r cynllun ail gynnig y bydd y rhai ohonom ni a gymerodd ran ynddo yn eu cofio. Mae nifer o gleifion yn amharod iawn i deithio pellteroedd maith i gael triniaeth. Yr hyn y maen nhw'n chwilio amdano yw triniaeth effeithiol mor agos at adref â phosibl, ac nid oes gan bawb adnoddau—nid yn unig o safbwynt ariannol, ond dim ond o ran cael rhywun sy'n gallu mynd gyda chi. Roedd ein cynllun ail gynnig ni yn talu i aelod o'r teulu neu ffrind fynd gyda chi os oeddech chi'n teithio pellter maith i gael llawdriniaeth orthopedig, er enghraifft. Nid yw pawb mewn sefyllfa i allu dod o hyd i rywun mewn sefyllfa i wneud hynny i gyd, felly'r hyn a welsoch chi oedd bod rhai pobl yn gallu manteisio ar y cynllun ail gynnig—nid y bobl a oedd â'r angen clinigol mwyaf bob amser—tra bod pobl eraill, roedd eu hamgylchiadau yn golygu'n syml nad oedd modd iddyn nhw ddefnyddio'r cynllun. Felly, dychweliad syml i gynllun o'r math a oedd gennym ni o'r blaen, dydw i ddim yn meddwl mai dyna fyddwn ni'n chwilio amdano. Ond rydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth iechyd ddefnyddio pob darn o gapasiti sydd ar gael, ac nid disgwyl yn syml y bydd pobl yn defnyddio'r capasiti sydd ar gael yn uniongyrchol yn eu hardal bwrdd iechyd lleol eu hunain.