Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r sector yn chwarae rôl bwysig yn rhoi gwybodaeth i bobl yma yng Nghymru, ac i'n helpu ni i greu pethau i'n dinasyddion. Rydym ni'n cefnogi'r sector drwy becyn o bethau. Rydym ni'n gweithio gyda'r sector, ac i'w helpu nhw i wrthwynebu beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes hwn.