Yr Argyfwng Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:22, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n poeni y bydd benthyg dros £100 biliwn ar gefnogi marchnadoedd ynni sy'n rhy ddrud ac yn anghynaliadwy yn dal i adael yr aelwydydd tlotaf yn fy etholaeth yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Beth, os rhywbeth, all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn dinasyddion rhag gorfod talu am y mynydd hwn o ddyled am yr 20 mlynedd neu fwy nesaf? A pha ysgogiadau, os o gwbl, y mae'n eu rhoi i Lywodraeth Cymru gael cwmnïau sy'n cynhyrchu ynni i ddatgarboneiddio i ddiogelu ein heconomi rhag y gwallgofrwydd neo-ryddfrydol hwn a bodloni ein targed sero-net?