Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Medi 2022.
Gweinidog, gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog addysg ar ddatblygu sgiliau codio yma yng Nghymru?
Yr wythnos cyn diwethaf, gwnes i ymweld â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd lle cafodd pryderon eu codi gan fynegi nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu sgiliau codio mewn ysgolion a'i bod yn alwedigaeth sy'n canolbwyntio'n gryf ar ddynion ar hyn o bryd. Yn ddiau, mae codio'n sgil sydd ei angen ar bob sefydliad, a heddiw, mae codio wedi'i gyfannu mor llwyr, nid yn unig ledled busnesau, ond hefyd ledled ein bywydau cyfan, bod gan bron bob busnes rhyw fath o god wrth ei graidd.
Mae dysgu pobl ifanc sut i lwyddo yn y byd digidol yn gwbl hanfodol, yn fy marn i, ac un mater mawr yw bod y sgiliau sydd eu hangen arnom i ni lwyddo yn ein bywydau digidol yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr wir yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae lefel gallu digidol unigolyn yn prysur ddod yn un o'r pethau allweddol sy'n penderfynu ei rym i ennill cyflog, ac eto yng Nghymru, mae'n ymddangos ei fod yn glytwaith o sgiliau digidol. Ym mis Mehefin 2017, lansiodd y Gweinidog Addysg ar y pryd 'Cracio'r cod: Cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru', a wnaeth sawl ymrwymiad o dan benawdau strategol gwahanol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad o ran canlyniadau'r strategaeth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol nawr i sicrhau bod disgyblion Cymru yn cael sgiliau digidol arbenigol i gyd-fynd â maint yr heriau sydd o'n blaenau ni? Diolch.