Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch. O ran eich ail gwestiwn, mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 26 Awst ynghylch yr wybodaeth ffeithiol anghywir iawn a oedd, yn anffodus, yn cael ei thrafod mewn parth cyhoeddus gan grŵp penodol o bobl. Rwy'n credu bod y Gweinidog Addysg yn glir iawn yn ei ddatganiad ysgrifenedig—rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y cyfle i'w weld—i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru.
O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fy mod i'n gobeithio y bydd y teulu brenhinol nawr yn gallu galaru. Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn hollol anhygoel y ffordd maen nhw wedi bod yn mynd o amgylch y wlad, yn enwedig y Brenin a'r Frenhines Gydweddog, i siarad â phobl ac ymweld â gwahanol rannau'r DU. Rwy'n gobeithio bod ganddyn nhw'r amser preifat yna nawr.
Byddwch chi'n ymwybodol, oherwydd ei fod wedi bod yn y parth cyhoeddus, hyd yn oed os nad oedd y Prif Weinidog wedi gallu dod o hyd i ddwy funud i siarad â'r Prif Weinidog, gwnaeth Tywysog Cymru, yn ystod ei gyfnod o alaru, ffonio'r Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei wneud nawr, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w gydnabod. Ond yr hyn y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir iawn oedd ei bod hi'n bwysig sut mae'n datblygu ei rôl wrth fwrw ymlaen, ac mae dadl i'w chael ynghylch hynny.