Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Medi 2022.
Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu unrhyw gamau i leihau effaith yr argyfwng costau byw hwn ar deuluoedd, ond os caiff y cap ar filiau ynni ei ariannu trwy fenthyca, yna mae hynny mewn gwirionedd, i ddyfynnu llawer iawn o Weinidogion Ceidwadol blaenorol, yn golygu gwerthu dyfodol ein plant ni. Yn hytrach na dewis ariannu hyn drwy ddefnyddio treth ffawddelw ar yr elw rhyfeddol ac annisgwyl a wnaeth cynhyrchwyr olew a nwy, mae hi'n ymddangos bod y Llywodraeth newydd yn dewis llwytho'r ddyled ar fywydau pob dinesydd yn y DU am flynyddoedd lawer iawn i ddod. Ac wrth wneud hynny, fe fydd hi, drwy benderfyniad bwriadol, yn rhoi'r cymorth mwyaf i'r rhai sydd â'r angen lleiaf amdano, a'r cymorth lleiaf i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Mae'r Resolution Foundation wedi amcangyfrif y bydd y cap ynni, ynghyd â'r gwrthdroad disgwyliedig yn y cynnydd a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, yn rhoi i'r 10 y cant uchaf o enillwyr y DU £4,700, ac i'r 10 y cant isaf £2,200—canlyniad a ddisgrifir gan y Prif Weinidog newydd fel un sy'n 'deg'. Nawr, wrth i'r bunt ddibrisio ymhellach ar y cyfnewidiadau rhyngwladol, a'r marchnadoedd bond yn mynnu cyfraddau llog uwch wrth fenthyca arian i'r Deyrnas Unedig, y canlyniad fydd cynnydd pellach yng nghost benthyca domestig, ac mae hynny'n golygu morgeisi drytach a chredyd drytach i ddinasyddion Cymru. Dirprwy Lywydd, dyma pam y byddwn ni'n canolbwyntio ein holl ymdrechion ni'r hydref hwn ar wneud popeth sydd yn ein gallu i gefnogi pobl trwy gydol yr argyfwng hwn.
Mae pwyllgor Cabinet costau byw wedi ei sefydlu o'r newydd i ddatblygu'r gwaith hwn. Bydd hwnnw'n cyfarfod yn wythnosol. Fi fydd yn ei gadeirio, ac fe fydd yn cynnwys partneriaid cymdeithasol allweddol o'r tu hwnt i'r Llywodraeth. Dyma bedair ffordd yn unig yr ydym ni'n gobeithio y bydd yr holl waith hwnnw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn gyntaf, fe fyddwn ni'n ail-lunio, yn canolbwyntio eto ac yn ychwanegu at y llu o gamau yr ydym ni'n eu cymryd eisoes i wneud y mwyaf o'r arian sydd ar ôl ym mhocedi dinasyddion Cymru i ymestyn y cymorth sydd eisoes ar gael. Ac fe fyddwn ni'n gosod disgwyliadau newydd ar ein partneriaid ni wrth iddyn nhw fod â'u rhan yn yr ymdrech hon. Eleni yn unig, fe fyddwn ni'n gwario dros £1.5 biliwn ar gynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—cynlluniau sy'n cael effaith uniongyrchol ar yr argyfwng costau byw. Rhaglenni yw'r rhain fel y cynllun gostwng treth gyngor, presgripsiynau rhad ac am ddim yma yng Nghymru, y lwfans cynhaliaeth addysg, teithio rhad ac am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed, brecwast rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd, y cynlluniau mwyaf hael ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a gofal plant a ariennir, yn ogystal â chymorth i deuluoedd â chost y diwrnod ysgol.