3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Gostau Byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:25, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i John Griffiths am y pwyntiau pwysig hynny. Mae'n iawn; mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu'r hydref a'r gaeaf hwn sy'n dod gydag ymdeimlad gwirioneddol o anesmwythder. Rydym ni wedi bod mewn rhyw fath o ryfel ffug, onid ydym ni, yn hyn, mewn gwirionedd, oherwydd nid yw pobl wedi gweld gwir effaith y biliau cynyddol eto a ddechreuodd ar 1 o fis Ebrill eleni. Yn ystod misoedd hir yr haf, mae pobl mewn rhai ffyrdd yn gallu gwneud addasiadau—nid oes raid i chi wresogi'r tŷ, nid oes raid i chi droi'r golau ymlaen yn gynnar gyda'r nos—ond maen nhw'n gweld mis Hydref yn dod ac maen nhw'n gwybod na fydd y ffordd honno o ymdopi ar gael iddyn nhw bellach. Mae John Griffiths yn llygad ei le o ran yr ymdeimlad drwgargoelus y mae hynny'n ei greu i gymaint o deuluoedd.

Fe ddylai'r system fudd-daliadau ysgwyddo'r gwaith trymaf yn hyn o beth. Dyna beth y cafodd ei chynllunio i'w gyflawni. Dyna pam y dyluniodd James Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli, y system nawdd cymdeithasol yn y ffordd y gwnaeth, fel na ddylai'r un teulu fod yn ofni ansefydlogrwydd yma yn y Deyrnas Unedig. Ond gyda £1,200 yn cael ei dynnu allan o gyllidebau teuluoedd yn union wrth i'r biliau hyn ddechrau codi, mae'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch yn dod yn fwy amlwg nag erioed. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dibynnu erbyn hyn ar y gronfa cymorth dewisol i'w cynnal trwy'r cyfnod aros o bum wythnos, y pum wythnos cyn i chi gael unrhyw gymorth o system y DU. Diolch byth, mae ein cronfa cymorth dewisol ni'n caniatáu i deuluoedd gael rhywfaint o gymorth yn ystod y cyfnod anodd iawn hwnnw.

Er nad wyf i'n cytuno â phob pwynt y gwnaeth arweinydd Plaid Cymru yn gynharach o ran drylliad y system fudd-daliadau yn y DU—oherwydd yn y diwedd, mae'r posibilrwydd ganddi hi i fod yn beiriant rhagorol ar gyfer ailddosbarthu yn nwylo'r Llywodraeth gywir—rwyf i'n cytuno, ac wedi dweud hynny o'r blaen, gyda chasgliadau'r pwyllgor yn nhymor diwethaf y Senedd a gadeiriodd John Griffiths, y byddai datganoli gweinyddu nawdd cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru. Wrth gwrs fe fyddai gennym ni drefn wahanol o gosbi pe byddai hynny yn nwylo'r Senedd hon; wrth gwrs, fe fyddai gennym ni ddull gwahanol o dynnu didyniadau o fudd-daliadau llwm pobl oherwydd dyledion sydd ganddyn nhw mewn mannau eraill. Mae'r achos dros ddatganoli gweinyddu lles wedi mynd yn gryfach eto ers i'w bwyllgor ef ymchwilio i hyn yn gyntaf a gwneud yr argymhellion hynny. Rwyf i'n falch iawn yn wir o allu ategu'r cynigion hynny'n gadarn.