Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 20 Medi 2022.
Rwy'n cytuno'n llwyr ag Alun Davies ein bod hi'n rhaid i ni, yn yr argyfwng hwn, wneud popeth a allwn ni ac nid gwaith i Lywodraeth Cymru yn unig mohono. Rydym ni'n ariannu gwasanaeth cynghori unigol yma yng Nghymru. Dyma un o'r pethau a nododd yr Arglwydd Thomas, yn ei adroddiad ar ddatganoli cyfiawnder—bod mwy a mwy o Lywodraethau Cymru wedi gorfod ysgwyddo cyfrifoldebau dros lenwi'r bwlch mewn gwasanaethau sydd heb eu datganoli. Rydym ni'n falch o wneud hynny, oherwydd mae'r gwasanaethau cynghori hynny o bwys gwirioneddol i bobl. Ond os ydym ni'n credu bod y gwasanaethau cynghori hynny yn ysgwyddo'r baich i gyd o ran yr holl angen am gyngor a fydd yng Nghymru'r hydref a'r gaeaf hwn, yna mae gen i ofn nad yw hynny'n debygol iawn o fod yn rhywbeth sy'n gynaliadwy iddyn nhw.
Rwy'n eglur iawn fy meddwl, ym mhob un cyfarfyddiad a fydd gan weithiwr gwasanaeth cyhoeddus â theulu mewn angen y gaeaf hwn, y bydd cyfrifoldeb ar y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw i wneud yn siŵr bod yr unigolyn hwnnw neu'r teulu hwnnw'n cael pob cymorth posibl. Pan fydd gweithiwr cymdeithasol ar lawr gwlad yn cwrdd â theulu, bydd pob cynllun y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig, bob tamaid o gymorth y gellir ei ddwyn i lawr oddi wrth Lywodraeth y DU—. Fe ddylai hwnnw fod yn gyfrifoldeb y maen nhw'n barod i'w ysgwyddo. Fel y dywedais i o ran ymwelwyr iechyd, pan fydd ymwelydd iechyd gyda theulu, fe fydd iechyd ariannol y teulu hwnnw'n cael effaith uniongyrchol ar iechyd corfforol y teulu hwnnw hefyd. A'r gaeaf hwn, o bob gaeaf, fe ddylai pob cyswllt gwasanaeth cyhoeddus fod â gwneud y mwyaf o'r incwm hwnnw, gan dynnu i lawr pa gymorth bynnag sydd ar gael, flaenaf yn eu hystyriaethau nhw. Fe fyddwn ni'n awyddus i wneud hynny yn y Llywodraeth yng Nghymru, ond mae angen i ni ddibynnu ar y fyddin ehangach yna o bobl sydd gennym ni yng Nghymru, boed honno yn y trydydd sector, mewn sefydliadau gwirfoddol ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Pan fydden nhw mewn cysylltiad â theulu sydd ag angen am gymorth, yn ogystal â'r holl bethau eraill yr wyf i'n gwybod eu bod yn rhaid iddyn nhw eu gwneud, y gaeaf yma, fe fydd yn rhaid iddyn nhw edrych ar y cyfan mewn perthynas â chostau byw yn fy marn i. Drwy wneud hynny, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud y cynnydd yr ydym ni'n awyddus i'w gael fel na fydd unrhyw un yn colli allan ar gymorth sydd ar gael, oherwydd fe fydd y cymorth hwnnw'n gwbl angenrheidiol.