Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 20 Medi 2022.
Mae pobl a busnesau yng Nghymru eisoes yn gwneud newidiadau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi nhw, gan adeiladu ar eu brwdfrydedd dros newid. Mae pobl yn mynnu bod y Llywodraeth hon a'u Senedd yn adeiladu ar eu hymdrechion, a dyna mae'r Bil hwn yn ei wneud heddiw. Mae'n anfon neges glir at bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn annog mwy ohonon ni i newid ein harferion a lleihau gwastraff plastig. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni gyd ddod i arfer â gwneud pethau'n wahanol. Rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith y bydd rhai pobl a busnesau yn gweld newidiadau anos nag eraill, a bydd angen amser ac arweiniad arnyn nhw i wneud hynny. Serch hynny, mae newid o'r fath yn gwbl bosibl. Fel Llywodraeth, rhaid i ni beidio ag osgoi yr angen brys i gyflymu cyfradd y newid sydd eisoes ar waith.
Pwrpas y Bil yw lleihau llif llygredd plastig i'n hamgylchedd. Mae'r Bil hwn yn rhan o'n hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd y Bil yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan gymunedau ledled Cymru sydd eisoes wedi dewis mynd yn ddi-blastig, diwylliant taflu i ffwrdd, a helpu i fynd i'r afael â sbwriel.
Dirprwy Lywydd, ar 15 Awst, cyhoeddwyd drafft o'r Bil er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â buddiant weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil, a chyfle i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ymgynghori ar y cynnig. Yn yr un ysbryd o fod yn agored, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw i nodi rhai newidiadau yr ydym yn bwriadu eu cynnig i'r Bil yng Nghyfnod 2. Mae'r newidiadau yn esboniadau technegol a chyfreithiol nad ydynt yn newid pwrpas na bwriad y Bil. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd dros y misoedd nesaf, gobeithio y byddwch yn cefnogi'r gwelliannau hyn a fydd yn rhoi'r eglurder angenrheidiol i'r Bil.
Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi i ddefnyddiwr yng Nghymru yr eitemau plastig untro yn yr Atodlen. Bydd hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion gyflwyno cosbau sifil fel ffordd amgen o orfodi'r gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro sydd wedi'u gwahardd, sy'n debyg i'r trefniadau ar gyfer y gwaharddiad presennol ar ficrobelenni plastig sydd ar waith ers 2018. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu inni gyflwyno rheoliadau i wahardd neu gyfyngu mwy o gynhyrchion wrth i dystiolaeth o niwed ac effaith y camau hyn ddod ar gael. Bydd yn ofynnol i Weinidogion adrodd ar yr eitemau y maen nhw'n ystyried eu gwahardd o dan y ddarpariaeth hon. Bydd rheoliadau o'r fath yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd drwy weithdrefnau cadarnhaol.
Mae llawer o'r eitemau yn yr Atodlen o eitemau i'w gwahardd yn cynnwys cynhyrchion bob dydd sy'n gysylltiedig â bwyd a diod pan fyddwch allan. Mae hyn yn cynnwys eitemau plastig untro fel cyllyll a ffyrc, platiau, troyddion diod, cynwysyddion bwyd a chwpanau wedi'u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog, yn ogystal â chaeadau polystyren ar gyfer cynwysyddion bwyd a chwpanau. Rydym hefyd yn gwahardd gwellt yfed, sydd ag eithriad i sicrhau eu bod yn dal i allu cael eu darparu i'r bobl hynny sydd, am resymau meddygol, eu hangen i fwyta neu yfed. Rydym hefyd wedi cynnwys ffyn cotwm sydd â choesau plastic a ffyn balwnau plastig. Ac rydym hefyd yn bwriadu gwahardd yr holl gynhyrchion sydd wedi'u gwneud o blastig ocso-diraddadwy, sy'n fath o blastig y mae ychwanegion wedi'u hychwanegu ato sydd wedi'i ddangos i newid y ffordd y mae'n torri i lawr.
Dirprwy Lywydd, i ategu llwyddiant y tâl 5c am fagiau siopa untro, bydd y Bil yn mynd â'n huchelgais i atal gwastraff o'r cynhyrchion hyn i'r lefel nesaf. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o aelwydydd wedi newid eu harferion fel nad oes angen y cynhyrchion hyn arnyn nhw mwyach. Felly, bydd bagiau tenau, untro hefyd bellach yn cael eu gwahardd.
Bydd y Bil hwn yn galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastigau drwy dynnu eitemau untro o'r gadwyn gyflenwi. Bydd yn helpu i gyflawni ein huchelgais i ddatblygu'r economi gylchol drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio, cynhyrchu gwerth gan leihau'r galw cyffredinol. Bydd yn helpu i fynd i'r afael ag effaith weledol ac ecolegol sbwriel plastig ac yn mynd â ni gam yn nes at fod yn genedl sy'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydym ni'n ei ddefnyddio, gan ddefnyddio dim mwy na'n cyfran deg o adnoddau'r byd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a gallwn greu amgylchedd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol.
Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cytuno mai nawr yw'r amser i weithredu. Bydd holl Aelodau'r Senedd wedi cael cais yn eu hetholaethau i weithredu ar y mater pwysig hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gefnogol i'n cynigion drwy gydol y broses graffu a fydd yn awr yn dilyn, gan fy mod yn awyddus i weld bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio i sicrhau Cymru werddach a mwy ffyniannus ac i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant. Diolch, Dirprwy Lywydd.