4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:51, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am y sylwadau cynharach? Y pwynt yr wyf, rwy'n credu, yn cytuno â hi yw bod mater plastig untro, halogi ein hamgylchedd, yr angen i fynd i'r afael â'r her honno, yn un byd-eang, ond mae'n un lle mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn o fewn Cymru o ran ein cyfrifoldebau ein hunain, a bod hynny, yn gyffredinol, yn fater trawsbleidiol; dydy e ddim yn fater sy'n creu rhaniadau gwleidyddol rhyngom ni. Gallwn ni i gyd weld beth sy'n digwydd. Rwyf wedi bod allan gyda gwirfoddolwyr fy hun yng nghoedwig Beddau yn fy etholaeth i; rydych chi'n gweld faint o blastigion a'r gwaith ffantastig mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu casglu. Rwy'n croesawu'r ysbryd hwnnw o gefnogaeth i amddiffyn ein hamgylchedd yn fawr.

Rydych chi'n gofyn pam mae'n cymryd cyhyd a pham ein bod mor bell ar ei hôl hi. Rwyf i wastad yn anobeithio ryw ychydig pan fo deddfwriaeth yn cael ei thrin fel petai yn rhyw fath o ras Olympaidd o ran cyntaf, ail a thrydydd. Mae amryw o bethau gwahanol yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Mae Lloegr wedi cyflwyno deddfwriaeth eilaidd, yn ôl ym mis Ebrill 2020, yn ymwneud â gwellt, ffyn cotwm a throellwyr. Mae'n ystyried ehangu ei rhestr i gynnwys rhai o'r pethau yr ydym ni mewn gwirionedd yn dechrau deddfu arnon nhw ein hunain, ac, wrth gwrs, rwy'n credu y byddech chi'n gefnogol i'r ffaith ein bod ni, o ran ein cyfrifoldebau datganoledig, yn deddfu o fewn Cymru ei hun ac y dylen ni fod yn gwneud hynny. Gwaharddodd yr Alban ffyn cotwm yn 2019; ym mis Mehefin 2022, fe wnaethon nhw ychwanegu rhai eitemau eraill. Maen nhw'n edrych ar fater plastig ocso-diraddadwy, yr ydym ni'n deddfu arno. Yr hyn y dywedaf i yw, wrth ddeddfu yn y meysydd hyn, nad mater o geisio edrych ar restr yn unig ydyw mewn gwirionedd; mae'r mater o ddiffiniadau ac effaith yn gymhleth iawn. Rwy'n credu bod ein Bil ni yn mynd ymhellach, a Bil Cymru fydd y darn mwyaf helaeth o ddeddfwriaeth. Ond, yn bwysig, yr hyn y mae hefyd yn ei wneud yw y bydd yn creu pwerau—ac, unwaith eto, yn amodol ar benderfyniad cadarnhaol yn y Senedd—i'n galluogi ni i barhau i weithio ar y rhestr, oherwydd mae hyn yn amgylchedd sy'n newid. Rydym ni'n gwybod bod eitemau eraill yr hoffem ni eu gweld yn cael eu hychwanegu ond pan fo gwaith tystiolaeth pellach o hyd sydd ei angen. Ond mae angen fframwaith arnom, sef yr hyn y mae'r Bil yn ei greu, i ychwanegu ati mewn gwirionedd, neu, yn wir, i ddileu ohoni.

O ran gorfodaeth, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai awdurdodau lleol, rwy'n credu, gyda'u cyfrifoldebau amgylcheddol ac, mewn gwirionedd, cyfrifoldebau sy'n ymestyn ymhell i feysydd iechyd a diogelwch hefyd, yw'r corff naturiol i gymryd camau gorfodi mewn gwirionedd. Wrth gwrs, bydd unrhyw gynnig rhesymol sy'n cael ei gyflwyno yn cael ei ystyried yn iawn. Rwy'n gwrthod y ffaith—. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wrthod, unrhyw gynnig yn cael ei wrthod, ar y sail ei fod yn dod gan y Ceidwadwyr. Rwy'n credu bod yna resymau ideolegol clir iawn, yn amlwg, pam mae cynigion sy'n dod gan y Ceidwadwyr yn cael eu gwrthod, ond rwy'n credu bod hynny'n fater gwahanol.

Ac yna efallai dim ond un pwynt olaf. Yn amlwg, mae unrhyw welliannau technegol ac ati a fyddai'n gwella'r ddeddfwriaeth yn amlwg yn bethau y byddem eisiau eu hystyried. Ac eto, fel y dywedais, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei gwelliannau ei hun, sydd o natur dechnegol gan fwyaf. Ac eto, cafodd y Bil ei gyflwyno'n gynnar ar ffurf ddrafft i alluogi'r pwyllgor i ddechrau proses ymgynghori. Mae'r broses honno, rwy'n deall, wedi bod ar y gweill ac—os ydw i'n iawn—wedi ei chwblhau, ac mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried ei hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw ar hyn o bryd.