Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 20 Medi 2022.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr. Mae'r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad wedi'u datblygu gyda Phlaid Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithredu. Ein huchelgais ar y cyd yw datblygu twristiaeth er lles Cymru gyda thwf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol a lles cymdeithasol a diwylliannol wrth wraidd yr uchelgais honno. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn cael y gefnogaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Nid Cymru yw'r unig un sy'n dilyn y dull hwn. Mae gan dros 40 o wledydd ardollau ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Seland Newydd. Bydd llawer ohonom ni wedi talu ardoll wrth deithio dramor, a bydd rhai wedi gwneud hynny heb sylwi hyd yn oed. Ar draws y byd, mae mwy a mwy o gyrchfannau yn dewis defnyddio ardollau ymwelwyr i wella gwasanaethau a seilwaith lleol. Gall y trethi hyn alluogi math mwy cynaliadwy o dwristiaeth. Yn dilyn galwad am syniadau cyhoeddus am drethi newydd yn 2017, awgrymwyd y dylid ystyried ardoll ymwelwyr. Rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â'r syniad hwn drwy ein hymrwymiad rhaglen lywodraethol.
Mae trethi lleol yn cefnogi'r gwaith o ariannu seilwaith a gwasanaethau lleol, o gadw traethau, llwybrau troed ac arfordiroedd yn lân, darparu seilwaith trafnidiaeth leol a chynnal ardaloedd o harddwch naturiol. Mae'r rhain yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cyrchfannau twristiaeth llwyddiannus. Onid yw'n deg y dylai ymwelwyr wneud cyfraniad bach at y costau hyn? Mae hwn yn ddull sy'n fwyfwy cyffredin ac y mae dealltwriaeth gynyddol well ohono, y mae mwy a mwy o lefydd yn ceisio ei fabwysiadu. Gallai refeniw sy'n cael ei godi o ardoll ddarparu arian ychwanegol i ddiogelu ardaloedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn y Deyrnas Unedig, efallai mai Cymru fydd un o'r llefydd cyntaf i gyflwyno ardoll ymwelwyr, ond rwy'n amau mai hon fydd yr olaf. Mae rhannau eraill o'r DU wedi galw'n frwd am gyflwyno pwerau tebyg, gan gydnabod y buddion y gall ardoll eu cynnig i ardaloedd lleol.
Wrth gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori hon, hoffwn fod yn glir am ein bwriadau. Mae'r polisi hwn yn gyson â'n cefnogaeth hirsefydlog i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Amcangyfrifwyd bod gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru dros £5 biliwn yn 2019 ac fe hoffem ni barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru yn rhan o adferiad cryf yn dilyn effaith COVID-19. Mae'n hysbys bod seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o brofiad yr ymwelwyr, a bydd ardoll yn helpu i annog buddsoddiad parhaus ynddynt.
Hoffwn bwysleisio y cai'r ardoll arfaethedig ei gymhwyso'n deg mewn modd sy'n gyson â'n hegwyddorion treth craidd. Byddai unrhyw ardoll ymwelwyr a gyflwynir yn glir, sefydlog a syml, a byddai'n ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal. Ein bwriad yw sicrhau ymdeimlad o gydgyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn gwarchod a buddsoddi yn ein hardaloedd lleol. Byddai ardoll yn cynrychioli tâl bychan a byddai'n annog ymagwedd fwy cynaliadwy at dwristiaeth. Mae'n bwysig cofio bod ein cynnig yn ystyried pwerau dewisol i awdurdodau lleol; hoffem i ardaloedd lleol benderfynu a yw ardoll yn iawn iddyn nhw. Rydym ni'n ffodus i fyw mewn gwlad sydd ag arlwy mor amrywiol i ymwelwyr. Rydym yn cydnabod bod graddfa ac effaith yr economi ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Ein nod ar gyfer unrhyw gynnig ardoll a weithredir arno yw y bydd y cyrchfannau hynny sy'n dewis ei weithredu yn gyson wrth wneud hynny.
Dros yr wyth mis diwethaf, rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall ac ystyried safbwyntiau gwahanol. Caiff y safbwyntiau hyn eu hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a'r asesiad effaith, i gefnogi eraill wrth ddarparu eu hymatebion. Cynhaliwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, cyrff diwydiant a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr aeddfed eu datblygiad. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yn hyn.
Byddwn ni'n cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol rhannol ochr yn ochr â'r ymgynghoriad a fydd yn amlinellu costau a manteision posibl y gwahanol ddewisiadau ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr. Gobeithiwn fod hyn yn rhoi sylfaen gadarn i ennyn mwy o dystiolaeth ac adborth arno. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio asesiad effaith terfynol ar gyfer unrhyw fesurau a weithredir arnynt, ochr yn ochr â chanlyniadau o'r ymchwil annibynnol yr ydym wedi'i gomisiynu.
Penderfynir ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen yn dilyn ystyriaeth ddyledus o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall. Byddai galluogi ardoll ymwelwyr yn ôl disgresiwn ar draws Cymru yn cymryd sawl blwyddyn yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, ac yn dilyn proses ofalus o ddylunio a gweithredu. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i fusnesau, llywodraeth leol a chymunedau lleol gynllunio o flaen llaw.
Llywydd, fe fydd yna wastad groeso cynnes i ymwelwyr yng Nghymru. Bwriad y polisi blaengar yma yw cefnogi ardaloedd lleol, sicrhau bod ymwelwyr, boed nhw wedi teithio o rywle arall yng Nghymru neu o bellach i ffwrdd, yn gwneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella'r lle y maent yn ymweld ag o. Wedi'i wneud yn iawn ac yn deg, gall hyn fod o fudd mawr, a rhoi cyfle i wella ein gwlad brydferth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod eu barn yn helpu i lywio ein cynlluniau wrth i ni eu symud ymlaen.