Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 20 Medi 2022.
Felly, fe wnaf i ddechrau gyda'r pwynt yma ynghylch ei fod yn gyfnod o argyfwng economaidd, ac mae hynny'n hollol wir. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw, a gadewch i ni obeithio y bydd y Canghellor yn cyflwyno pecyn o gefnogaeth gref iawn i fusnesau pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am ardoll dros nos, ond dydyn ni ddim yn sôn am ei gyflwyno dros nos. Y pwynt yma yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei lansio heddiw yn ymgynghoriad ar y syniad, fel y gall pobl ymgysylltu â ni a'n helpu i lunio'r cynnig hwn.
Bydd cyd-Aelodau yn gwybod yn iawn y bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeddfwriaeth gael ei symud drwy'r Cynulliad hwn—mae'n ddrwg gennyf, drwy'r Senedd hon—a bydd angen gwaith difrifol ar gyfer hynny. Mae'n broses pedwar cymal, felly mae llawer iawn o amser i gyd-Aelodau geisio craffu ac i ddatblygu'r syniad gyda ni. Felly, ni chaiff ei gyflwyno dros nos. Mae'n cymryd nifer o flynyddoedd er mwyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, i ddatblygu'r syniadau yn llawn ac yna symud i'r cyfnod gweithredu, sydd ynddo'i hun yn ymgymeriad sylweddol.
Rwy'n credu bod y cwestiwn am eithriadau yn un pwysig. Rwy'n hapus i rannu gyda chyd-Aelodau y mathau o feysydd yr ydym yn eu hystyried o ran eithriadau. Un fyddai safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Byddem yn ystyried eithrio prif safleoedd preswyl Roma a Sipsi o'r ardoll gan fod eu ffordd o fyw yn gynhenid grwydrol am resymau diwylliannol. Byddem hefyd yn ystyried efallai—ac mae hyn i gyd yn rhan o'n hymgynghoriad, felly byddai safbwyntiau'n cael eu derbyn yn ddiolchgar—eithrio arosiadau brys a drefnir gan awdurdodau lleol; er enghraifft, pobl sy'n dioddef digartrefedd neu sy'n ffoi rhag trais yn y cartref.
Hefyd, gallai eithriadau gynnwys arosiadau wedi'u trefnu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a hefyd eraill sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, sydd efallai'n aros mewn llety arbenigol at y diben hwnnw, ac yna arosiadau brys mewn safleoedd sy'n cael eu gweithredu gan sefydliadau elusennol neu ddi-elw—eto, yn aros at ddibenion seibiant neu loches. Y sefyllfa rydym ni'n ei ffafrio yw nad yw llety ymwelwyr a ddarperir gan elusen neu sefydliad dielw at ddibenion seibiant, lloches neu gysgod yn cael ei gynnwys yng nghwmpas yr ardoll.
Felly, mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi ystod o amgylchiadau lle credwn y gallai hi fod yn amhriodol cyflwyno ardoll, ond wrth gwrs rydym yn gofyn i bobl rannu eu sylwadau a'u casgliadau ar hynny i'n helpu, eto, i lunio'r ardoll. Ac rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn am y sylw ynghylch tryloywder a phwysigrwydd y cwestiwn yn y ddogfen ymgynghori sy'n cyfeirio at adrodd blynyddol a mecanweithiau eraill. Mae'r ddogfen hefyd yn sôn am neilltuaeth rannol ac yn edrych ar wahanol fodelau sydd wedi cael eu defnyddio mewn gwahanol fannau, er mwyn ein helpu i ddatblygu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.
Mae'r Aelod yn sôn am lefydd sydd wedi cael eu dinistrio gan ardollau twristiaeth ar draws y byd, ond dydym ni ddim yn gweld hynny. Rydym wedi edrych ar enghreifftiau o ble nad yw ardollau twristiaeth wedi bod yn llwyddiannus—un fyddai'r ynysoedd Balearaidd, a gyflwynodd dreth eco yn 2001, efallai cyn ei amser, ac fe ddiddymwyd y dreth yn fuan ar ôl hynny, oherwydd bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng, ond roedd hynny yn erbyn cefndir o niferoedd ymwelwyr yn gostwng yn fyd-eang beth bynnag ar draws nifer o gyrchfannau ar y pryd. Ond maen nhw wedi ailgyflwyno'r dreth wedyn, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Fe wnaethon nhw hynny yn 2015, ac fe welon nhw gynnydd o 11.2 y cant yn yr ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn ganlynol. Felly, rwy'n credu, pan ydych chi'n edrych yn fanwl ar yr enghreifftiau lle mae hyn wedi'i gyflwyno mewn mannau eraill, rydych chi'n gweld gwaith cadarnhaol y bu modd ei wneud oherwydd yr ardoll twristiaeth, ac nid yw'n cael ei weld, yn y gwledydd hynny sy'n gweithredu'r fath ardoll, fel un sy'n mygu busnes; mae'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n creu buddsoddiad i gefnogi'r busnesau hynny.