Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch. Mae cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar agor i unigolion sy'n gyfrifol gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer adeiladau preswyl sy'n 11m neu'n uwch. Hyd yma, rydym wedi cael 261 datganiad o ddiddordeb ac mae angen cynnal arolwg ymwthiol o 163 ohonynt. Mae'r gwaith arolygu hwn yn mynd rhagddo, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn yr hydref.