Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch. Rhannaf eich pryderon ynglŷn â'r tân yn Victoria Wharf. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried eich cais. Yn sicr, o'r wybodaeth sydd gennyf yma, credaf ein bod yn aros am gadarnhad gan un datblygwr arall ynghylch adeiladau canolig neu uchel. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o rai achosion—sawl achos, rwy’n credu—lle mae’r unigolyn cyfrifol a’r asiantau rheoli wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr yn breifat i wneud y gwaith arolygu hwnnw, a gwn fod y Gweinidog yn edrych ar ad-dalu costau arolygon ac yn edrych ar ariannu ôl-weithredol. Credaf ei bod bob amser wedi nodi'n glir iawn na ddylid gorfodi lesddeiliaid i dalu am broblemau diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol am eu creu, a gwn fod ganddi gyfarfod arall, fel y dywedais, wedi'i gynllunio gyda datblygwyr.