Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 21 Medi 2022.
Iawn, diolch. Yn gynharach yn y mis, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban i rewi rhenti ac atal troi allan i helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw. Eleni, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd uchaf yng nghost rhentu y tu allan i Lundain, gyda chynnydd syfrdanol o hyd at 13.9 y cant ar gyfartaledd mewn rhenti. Daw hyn ochr yn ochr â chynnydd ym mhrisiau tanwydd, ynni a bwyd, sy'n taro pobl ledled Cymru. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai Llywodraeth Cymru weithredu cyn gynted â phosibl i sicrhau nad effeithir ymhellach ar denantiaid drwy droi allan a chodi rhenti? Rwy'n deall bod rhent tai cymdeithasol yn cael ei osod yn flynyddol, a byddai'n dda pe bai modd gwneud rhywbeth o leiaf tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i'w helpu drwy'r gaeaf, yn union fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud.