Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Medi 2022.
Wel, nid wyf yn siŵr pam fod hwn yn bolisi mor gymhleth i’w ddeall. Mae pob un ohonom wedi ymrwymo i gyflawni ein targedau newid hinsawdd. Daw 17 y cant o'r allyriadau o drafnidiaeth. Nawr, golyga hynny fod angen inni fabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth os ydym am gyflawni'r nodau sero net hynny, gan mai trafnidiaeth yw'r sector sydd wedi newid arafaf ers gosod y targedau am y tro cyntaf ym 1990. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol arnom. Nid ymddengys bod dealltwriaeth sylfaenol o hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr. Maent yn ymrwymo i’r targedau lefel uchel, ond pan fydd yn rhaid i chi drosi hynny wedyn i’r hyn y mae’n ei olygu’n ymarferol, maent yn cilio oddi wrtho, ac mae gwleidyddiaeth y peth yn anodd, ond mae angen arweiniad arnom yn y cyfnod heriol hwn. Deallaf gan Brif Weinidog newydd y DU ei bod wedi ymrwymo i gyflawni sero net: mae hi wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu drilio ym Môr y gogledd; mae'n mynd i ddechrau ffracio; ac mae'n mynd i, rwy'n dyfynnu, 'adeiladu ffyrdd yn gyflymach'. Wel, bydd pob un o’r pethau hynny'n cynyddu ein hallyriadau. Byddant yn mynd â ni ymhellach oddi wrth gyflawni'r sero net y clywsom gan Boris Johnson fis Tachwedd diwethaf yn y COP eu bod wedi ymrwymo i'w gyflawni. Felly, mae anghysondeb gwybyddol llwyr ar feinciau'r Torïaid rhwng yr hyn y maent yn dweud eu bod am ei wneud a'r hyn y maent yn barod i'w gefnogi mewn gwirionedd.
Nawr, rydym wedi edrych ar ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy banel arbenigol ar adeiladu ffyrdd i edrych ar gynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, nid y rhai sydd wrthi'n cael eu hadeiladu, gan y bydd y rheini'n parhau, ond y rhai nad ydynt wedi dechrau eto, i weld a ydynt yn gydnaws ag amcanion strategaeth trafnidiaeth Cymru er mwyn cyflawni ein cyllidebau carbon. Fel y dywedaf, rydym newydd dderbyn yr adroddiad hwnnw. Rydym yn ei archwilio'n fanwl, a byddwn yn gwneud datganiad arno i’r Senedd yn yr hydref. Ond mae'n amlwg, o gywair ei datganiadau unwaith eto, nad yw hi'n barod i wynebu canlyniadau ei haddewidion ei hun.