Diogelu Coetiroedd Hynafol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:05, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein polisïau cynllunio yn gosod fframwaith cryf ar gyfer gwarchod coed, gan gynnwys coetiroedd hynafol. Rydym yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu gwell amddiffyniad i'r amgylchedd a dull mwy effeithiol o atal torri coed yn anghyfreithlon. Bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cymorth i warchod a rheoli coetiroedd hynafol.