Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Aelod dros Orllewin Clwyd, Darren Millar. Afraid dweud bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn—a dweud y lleiaf—i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae'r argyfwng costau byw yn faich enfawr arall sy'n wynebu bron bob teulu a gynrychiolir gennym, ac nid wyf am chwarae gwleidyddiaeth plaid yn y ddadl hon; mae'n rhy bwysig. Mae angen gweithredu.
Ond nid ni yng Nghymru'n unig sy'n wynebu hyn. Ar draws y byd, mae gwledydd yn ymrafael â'r materion hyn. Yn ddiweddar cyfarfûm â theulu o Bafaria, un o Ffrainc ac un o'r Eidal, pob un yn wynebu sefyllfaoedd tebyg iawn yn eu gwledydd eu hunain, ac felly nid yw'n unigryw i ni. Ac wrth gwrs, fel mae ein gwelliant yn disgrifio, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno pecyn sylweddol o fesurau hyd yma, gwerth tua £37 biliwn, i helpu i gefnogi cymunedau ar hyd a lled y wlad: taliadau costau byw i deuluoedd, yn ogystal â'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol.
Rwy'n croesawu'r gwarant pris ynni diweddar yn fawr, a gwyddom y bydd yn capio prisiau cyfartalog ar £2,500, lle'r oeddem yn ofni eu bod am godi i £3,500. Gwyddom fod £2,500 yn dal i fod yn llawer mwy nag y byddent wedi'i dalu y llynedd a bod mwy i'w wneud. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad y bore yma y bydd 50 y cant o gostau ynni busnesau'n cael eu talu am chwe mis, a'i adolygu ymhen tri mis i weld a all hynny barhau. Ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi galw am dreth ffawdelw ychwanegol i helpu i dalu am y cynlluniau hyn, ond ar hyn o bryd mae gwir angen i gwmnïau fuddsoddi mewn cyflenwadau ynni gwyrdd newydd i hybu diogeledd ynni ac i atal pethau o'r fath rhag digwydd eto. Gellid gwneud mwy, fodd bynnag, i sicrhau bod elw'n cael ei ail-fuddsoddi yn y cymunedau.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed am y mesurau ychwanegol y mae disgwyl i Lywodraeth newydd y DU eu gweithredu yn ddiweddarach yr wythnos hon i helpu pobl i gadw mwy o'u harian yn eu pocedi. Ond Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais dro ar ôl tro yn y Siambr hon, mae angen mwy o gefnogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac ar y cyd, mae angen i Lywodraethau Cymru a'r DU, yn ogystal â ni yn y Senedd, weithio gyda'r holl bartneriaid i gyflwyno cymorth i helpu pobl i ymateb i unrhyw heriau sydd ar y gorwel, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl ddulliau ariannol sydd ar gael iddi i sicrhau bod pobl yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae rhai o'r awgrymiadau a nodwyd yn y cynnig gwreiddiol yn bethau y cytunaf y gellid edrych arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn: er enghraifft, sut i gyfyngu ar gost trafnidiaeth gyhoeddus, rhoi cymorth i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol heb unrhyw fai arnynt hwy, a rhoi cymorth i fyfyrwyr a phobl ifanc o gefndiroedd incwm is. Fel y dywedodd Sioned, mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi tynnu sylw at fyfyrwyr sy'n wynebu loteri côd post o ran cael ad-daliad treth gyngor, am ei fod yn dibynnu ar sut yr aeth awdurdodau lleol unigol ati i ddosbarthu'r cymorth.
Ond hefyd hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ychwanegol fel ehangu cymhwysedd cynlluniau sydd eisoes yn bodoli i gynnwys teuluoedd nad oes angen cymorth arnynt fel arfer, er enghraifft, teuluoedd nad ydynt yn derbyn budd-daliadau. Mae angen ei gwneud yn haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt, megis un pwynt mynediad a phasbort awtomatig i gynlluniau ar gyfer cartrefi difreintiedig, tra gallai Llywodraeth Cymru hefyd geisio cefnogi cynghorau lleol yn well i helpu teuluoedd drwy'r argyfwng hwn, megis gweithio gyda hwy i gynyddu capasiti'r gwasanaethau cymorth lleol, yn ogystal â lleddfu'r baich cynyddol ar y dreth gyngor.
Yn olaf, mae angen dull wedi'i dargedu'n well, megis help i bobl sy'n wynebu salwch hirdymor a'r rhai sy'n derbyn gofal diwedd oes. Bydd rhai ohonoch a ymwelodd â digwyddiad Macmillan ddoe wedi clywed sut y mae gan yr unigolyn cyffredin sy'n dioddef o ganser gost ychwanegol fisol barhaus o tua £800 y mis. O'r herwydd, mae angen darparu cymorth ychwanegol i'r unigolion hynny, megis ymestyn y cymorth dewisol presennol neu gyflwyno pethau fel pasys bws am ddim efallai i'r rhai yr effeithir arnynt.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwybod bod safbwyntiau gwahanol yn bodoli ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, a gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain fod yna ateb syml a all roi diwedd ar hyn, ond drwy weithio'n adeiladol gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn helpu i leihau'r straen ar bobl a busnesau, a goresgyn yr argyfwng ofnadwy hwn yn y pen draw. Diolch.