Part of the debate – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
Cynnig NDM8073 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:
a) haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig;
c) rhewi rhent;
d) ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf;
e) ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;
f) cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.