Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch i'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae mwy o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ers dechrau'r mis hwn, fel rhan o'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd erbyn 2024. Ond fe ddylen ni fod yn ymdrechu i ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd hefyd, fel mater o frys, i helpu i fynd i'r afael ag effaith yr argyfwng costau byw hwn ar ein plant a'n pobl ifanc, a hefyd i fynd i'r afael â thlodi plant, sydd yn broblem gynyddol yma yng Nghymru. Ac fel y soniais ddoe hefyd, mae'n rhaid edrych rŵan ar ymestyn cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc. Fel y canfu adolygiad tlodi plant Llywodraeth Cymru, nid yw pawb sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu derbyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau uchel o dlodi yng Nghymru ers blynyddoedd, a gellir dadlau ers dechrau'r Senedd hon, ac eto mae'r mater yn gwaethygu. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom yn cofio'r uchelgais i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020 yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu yn 2003 y grŵp gorchwyl tlodi plant i ymchwilio i effeithiau tlodi plant difrifol yng Nghymru, ar adeg pan oedd un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi.
Bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, nid yw'r ffigwr hwn wedi newid fawr ddim. Nid oes un ward cyngor yn unman yng Nghymru gyda chyfradd tlodi plant o dan 12 y cant. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd tua 195,000 o blant yn byw mewn cartrefi o dan y llinell dlodi. Oherwydd y cyfraddau tlodi plant uchel hyn, mae ein plant yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan yr argyfwng costau byw. Rydyn ni'n gwybod bod tlodi plant yn achosi niwed dwfn a gydol oes i ganlyniadau plant, sy'n gwaethygu po hiraf y bydd plentyn yn parhau mewn tlodi.
Mae tyfu i fyny mewn tlodi a phrofi'r straen a ddaw yn ei sgil yn golygu profiad plentyndod andwyol, a fydd yn effeithio ar yr unigolion hynny drwy gydol eu hoes. Mae'n drawmatig fel plentyn i dyfu i fyny heb i'ch anghenion gael eu diwallu. Mae'n debygol o gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, hunanddelwedd a hunan-werth, iechyd corfforol, addysg a llwybr gyrfa dilynol, y gallu i gymdeithasu'n normal a rhyngweithio â'u cyfoedion, a'r tebygolrwydd y byddant yn ymwneud â throsedd, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr.
Cododd prisiau bwyd ar y gyfradd gyflymaf ym mis Awst ers 27 mlynedd. Mae cyfran y bobl sy'n byw ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod torri yn ôl ar fwyd i blant bron wedi dyblu ers mis Tachwedd 2021—ers inni gael ein hethol i'r chweched Senedd hon. O ystyried y ffaith bod corff sylweddol o dystiolaeth yn dangos effaith maeth gwael yn ystod plentyndod ar ragolygon iechyd tymor hir plentyn, mae'r ffaith bod un o bob pump cartref gyda dau o blant yn torri yn ôl ar fwyd i'r plant yn arbennig o bryderus. Mae'n rhaid gwneud mwy o ran hyn.
Ond, ochr yn ochr ag ehangu prydau ysgol am ddim a chefnogaeth o ran sicrhau y dechrau gorau i bob plentyn, rhaid inni hefyd edrych ar y cynllun lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r swm yma wedi aros ar £30 yr wythnos ers ei gyflwyno yn 2004. Ers ychydig llai nag 20 mlynedd, dydy o ddim wedi cynyddu o gwbl, er bod costau yn parhau i gynyddu. Rydyn ni'n gwybod pa mor hanfodol ydy'r taliad hwn, ac yn gwneud y gwahaniaeth i berson ifanc allu parhau gydag addysg neu beidio; i'w rhieni allu gwneud y dewis i'w cadw nhw mewn addysg.
Mae'n rhaid cynyddu hwn rŵan i £45 yr wythnos fel rhan o'r pecyn o fesurau costau byw brys, i sicrhau nad yw'r argyfwng hwn yn effeithio'n negyddol ar ein pobl ifanc na'n dysgwyr, na'u huchelgeisiau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae mwy y gallwn ni ei wneud ac y dylem ni ei wneud, os ydym o ddifrif ynglŷn â rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru.