Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Rydym newydd gael dadl bwerus iawn ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar drechu tlodi tanwydd, ac yn wir, ddoe, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad hefyd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn ystyried hyn yn flaenoriaeth hollbwysig i’r Llywodraeth hon.
Mae pobl yng Nghymru'n wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Mae biliau ynni domestig wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf, ac mae’r effaith i'w theimlo ar draws ein heconomi a’n cymunedau, yn enwedig ymhlith y rhai ar yr incwm isaf a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae hynny wedi’i fynegi’n glir heddiw. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi’i dargedu a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl a helpu i liniaru’r argyfwng hwn. A ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y tri mesur ychwanegol y byddwn yn eu gweithredu—ar y drydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', ar fannau cynnes ac ar fanciau bwyd.
Rydym wedi gwneud llawer yma yng Nghymru, ond gwyddom mai Llywodraeth y DU sydd â'r adnoddau allweddol ar gyfer lliniaru'r argyfwng hwn, hwy sydd wedi caniatáu i'r argyfwng hwn waethygu a dim ond papuro dros y craciau y mae eu hymyriadau wedi'i wneud. Mae angen y warant prisiau ynni gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod 45 y cant o bobl Cymru eisoes yn debygol o fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill eleni. Mae hynny wedi'i ddweud eisoes. Ychydig iawn sydd yna yn y warant i gefnogi'r rheini y mae'r costau ynni cynyddol eisoes yn effeithio arnynt.
Ar ôl ystyried y warant prisiau ynni, a gwrthdroi, yn ôl y disgwyl, y cynnydd gan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol i gyfraniadau yswiriant gwladol—arhoswn am y cyhoeddiad ddydd Gwener—mae Sefydliad Resolution wedi rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd y degfed ran gyfoethocaf o aelwydydd yn cael oddeutu £4,700 y flwyddyn drwy'r mesurau hyn, tra bydd y tlotaf yn cael £2,200, gan ddyfnhau'r anghydraddoldebau sy'n falltod ar fywydau pobl. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio benthyca i dalu am y cap yn lle treth ffawdelw ar yr elw aruthrol a wneir gan gynhyrchwyr olew a nwy yn ein tynghedu ni oll i ddyfodol o filiau uwch am flynyddoedd lawer i ddod.
Rwy'n cytuno â Phlaid Cymru fod y cynnydd presennol mewn biliau ynni'n anghynaladwy, ac rwy'n cytuno ei bod yn gywilyddus fod pobl yng Nghymru yn wynebu’r cynnydd hwn yn eu biliau tra bo'r cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud elw digynsail. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU, llawer ohonom yma yn y Siambr hon, i gydnabod difrifoldeb yr argyfwng i drethdalwyr, i ailfeddwl eu hymagwedd tuag at dalu am gapiau ar brisiau ynni a threthu elw digynsail y cynhyrchwyr olew a nwy.
Galwaf hefyd ar Lywodraeth y DU i adolygu’r system fudd-daliadau. Gwnaeth Jane Dodds y pwynt am y toriad o £20 i gredyd cynhwysol y llynedd, ac rwyf innau hefyd wedi galw am gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn i gefnogi teuluoedd ac i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac ailystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cymreig i Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â'r holl gyfrifoldebau ac anghenion mewn perthynas â nawdd cymdeithasol yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ar sawl achlysur yn y Senedd hon ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl Cymru drwy’r argyfwng digynsail hwn, ac rwy'n gwneud yr ymrwymiad hwn eto heddiw.
Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd nad ydym ni, fel Llywodraeth, yn ddiogel rhag effeithiau'r argyfwng costau byw, ac yn union fel y mae chwyddiant yn erydu'r hyn y gall unigolion a theuluoedd ei brynu, mae'n gwneud hynny i'r Llywodraeth hefyd. Felly, mae setliad yr adolygiad o wariant tair blynedd, a gawsom gan Lywodraeth y DU y llynedd, bellach yn werth o leiaf £600 miliwn yn llai na phan y'i cawsom fis Hydref diwethaf, oherwydd effaith chwyddiant, ac mae’r bwlch hwn yn debygol o gynyddu pan welwn ragolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, pryd bynnag y cawn eu gweld.
Ond er ein bod yn cydnabod yr angen i weithredu, mae'n anochel fod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cynyddu gwariant cyhoeddus—[Torri ar draws.] Credaf fod hyn yn rhywbeth sydd mor bwysig, oherwydd mae'n ymwneud â sut y gallwn estyn allan a sicrhau bod yr £1.6 biliwn yr ydym wedi’i ganfod i dargedu cymorth costau byw a rhaglenni cyffredinol yn gallu rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Ac mae hynny'n cynnwys y pecyn costau byw o £330 miliwn.