Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Medi 2022.
Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod myfyrwyr addysg uwch yn gallu cael cymorth sy'n eu galluogi i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Mae ein system cymorth i fyfyrwyr yn darparu cymorth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, gyda’r lefelau grant uchaf yn cael eu targedu at y myfyrwyr sydd â’r angen mwyaf.