Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Medi 2022.
Wel, rwy'n cyfeirio Mark Isherwood at yr ateb a roddais eiliad yn ôl, ond rwyf am ddweud wrtho ef ac wrth Llyr Gruffydd, os hoffech chi ysgrifennu ataf ynglŷn â'r etholwr penodol, gallwn edrych ar hynny'n fwy manwl—oni bai eich bod wedi gwneud hynny eisoes; rwy'n sicr wedi cael peth gohebiaeth ar hyn. Ond byddwn yn hapus iawn i edrych yn fanylach ar hynny.