Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 21 Medi 2022.
Mae addysg am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr amgylchedd i sicrhau bod dysgwyr yn ymdeimlo â phwysigrwydd natur a bioamrywiaeth.