Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch am y cwestiwn. Deallwn fod Bearmach Cyf wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi rhoi cymorth ar y safle i weithwyr Bearmach dros gyfnod o dair wythnos, a byddwn yn parhau i weithio gyda staff yr effeithiwyd arnynt, i roi cyngor a chymorth. Rwy'n deall y bydd hyd at 89 o bobl yn cael eu heffeithio yn sgil cau'r cwmni hwn ac yn wynebu colli eu swyddi.