Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch, Dirprwy Weinidog. A minnau wedi fy magu yn Ynys Môn, dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Plas Menai fel adnodd a chyflogwr lleol, a braf oedd medru ymweld â Phlas Menai ychydig fisoedd yn ôl fel aelod o'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon. Yn ystod yr ymweliad, fe wnaethom fynegi pryder am y posibilrwydd o allanoli gwasanaethau, a rhaid cyfaddef does dim o'r pryderon hynny wedi'u lleddfu ddoe na heddiw. Rhaid cyfaddef hefyd fy mod yn synnu'n fawr at gefnogaeth y Llywodraeth i allanoli gan gorff wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd â dyletswyddau o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Sut mae'r newid hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion hynny? Yn bellach, doedd dim cyfeiriad ddoe o gwbl chwaith yn eich datganiad am yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd Plas Menai o ran swyddi da i Gymry Cymraeg yn yr ardal, a hefyd o ran darparu hyfforddiant a chyrsiau yn ddwyieithog. Pa sicrwydd allwch chi ei roi o ran yr elfen hon? Does yna ddim profiad, o beth dwi'n ei weld, gan y rhai sydd wedi cael y cytundeb o flaenoriaethu pethau yn ddwyieithog. Gan gydnabod bod yna nifer o bryderon pellach, da fyddai gwybod hefyd beth oedd y paramedrau pendant oedd yn eich datganiad rhwng Chwaraeon Cymru a'i bartner strategol newydd a gyfeiriwyd ato gennych.