Bearmach Cyf

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:08, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Bearmach wedi bod yn gyflogwr lleol da ers blynyddoedd lawer yn ardal Bedwas a Thretomos. Ar wahân i'r 50 o swyddi y nodwyd y byddant yn cael eu heffeithio, fel y clywsom, bydd llawer o staff asiantaeth eraill a gyflogwyd ar y safle bellach wedi colli eu hincwm ar yr amser gwaethaf posibl. Bydd hyn hefyd yn ergyd i fusnesau lleol a oedd yn cydweithio â Bearmach, neu'n elwa o fod gweithwyr yn gwario'u harian yn y gymuned leol. A wnewch chi roi gwybod i'r Siambr p'un a wnaeth Bearmach gysylltu â chi am unrhyw gymorth ariannol a pha gefnogaeth a gafodd ei chynnig wedyn? Ac a yw cau Bearmach, cwmni llwyddiannus ar un adeg sydd wedi methu ymdopi â'r amodau economaidd anodd, wedi ysgogi ailfeddwl ynghylch y modd y mae Llywodraeth yn blaenoriaethu'r diwydiant ceir fel sbardun i economi Cymru?