Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad a'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac yn diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon heddiw.
Ond mae'r adroddiad sy'n deillio o'r ymchwiliad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gyflawni ein rhaglenni a'n cynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol sydd ohoni, ac roedd yn benderfyniad doeth i gynnal yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn diolch i'r pwyllgor am eu tystiolaeth, eu mewnwelediadau a'u hargymhellion. Fel y mae eich adroddiad yn ei wneud yn glir, mae cost ynni wedi dod yn fwyfwy dylanwadol wrth ganfod lefel y tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae'r cynnydd mewn prisiau ynni wedi bod yn ymosodiad ar ein safonau byw ac wedi cael effaith ddinistriol yn barod ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu. Bellach, mae llawer o bobl yn methu fforddio'r hanfodion y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt yn ein bywydau bob dydd; mae'n anodd credu'r creulondeb annirnadwy wrth i deuluoedd fethu rhoi bwyd ar y bwrdd neu ddarparu hanfodion sylfaenol fel gwres a golau yn 2022, ond dyma yw'r realiti i gynifer o bobl.
I adrodd ar rai o'r camau a llawer mwy, wrth gwrs, sydd wedi cael eu cyflwyno mewn datganiad ddoe gan y Prif Weinidog, ond camau ers cyhoeddi'r adroddiad ar 4 Awst, fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem am newidiadau sy'n cael eu gwneud i amlder y newidiadau i'r cap prisiau. Ac fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem eto ar 26 Awst, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, y diwrnod y cyhoeddwyd pris mis Hydref, ac fe wnaethom fynegi pryderon dwfn am y cynnydd yn y cap prisiau i £3,549. Mae Prif Weinidog newydd y DU wedi rhoi camau ar waith i weithredu ar y pryderon a godwyd gennym, gyda chyhoeddiad y pris ynni, ac rwy'n edrych ymlaen at ddiweddariad Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu—mae cap prisiau o £2,500 dros ddwy flynedd yn fethiant i ddarparu cymorth ychwanegol wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae gan Lywodraeth y DU rym ariannol a chyfrifoldeb moesol i wella cymorth i ddeiliaid tai drwy'r argyfwng hwn. Ac rydym wedi galw'n gyson am dariff ynni domestig cymdeithasol, wedi'i osod yn is na thariffau safonol, er mwyn diogelu aelwydydd incwm isel yn well. Rydym wedi galw am gynnydd sylweddol yn yr ad-daliad a delir drwy gynlluniau, megis gostyngiad Cartrefi Clyd, dileu holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol yn barhaol o filiau ynni'r cartref, ac i'r costau hyn gael eu talu o drethiant cyffredinol, wedi'i ariannu'n rhannol o leiaf gan dreth ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cynhyrchwyr nwy ac olew yn ei fwynhau.
Ar 17 Chwefror ac 11 Gorffennaf, gyda chymorth fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cynhaliais uwchgynadleddau i archwilio beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi aelwydydd drwy'r amser anodd hwn. Ond ar 26 Mai, fe wneuthum gyfarfod hefyd â chyflenwyr ynni, gan gynnwys cwmnïau olew gwresogi, i ofyn am sicrwydd fod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu aelwydydd bregus wrth i'r gaeaf agosáu. Ac rydym yn gweithredu, gan fuddsoddi mwy na £318 miliwn ers mis Hydref ar amrywiaeth o fesurau i helpu'r rhai mwyaf anghenus. Rwyf wedi ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol i aelwydydd sy'n byw oddi ar y grid, i helpu gyda phrynu olew gwresogi a nwy hylifedig, sy'n arbennig o bwysig i gymunedau gwledig a rhywbeth sydd wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Mae mwy na 900,000 o aelwydydd wedi derbyn eu taliad costau byw o £150 eleni, ac mae mwy na 166,000 o aelwydydd wedi cael y taliad cymorth tanwydd y gaeaf o £200. Mae cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru ar waith bellach ar gyfer y gaeaf sy'n dod, a byddwn yn agored i geisiadau o ddydd Llun nesaf, 26 Medi, ymlaen.
Ac rwy'n croesawu'r argymhellion gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gynllun costau byw sylweddol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i'r argymhellion, rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau y gallwn estyn allan a gwella'r nifer sy'n derbyn hwnnw, ond hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi ymestyn y cynllun, sy'n golygu y bydd hyd at 400,000 o aelwydydd yn gymwys. Bydd pobl ar gredydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwr, yn ogystal â budd-daliadau cyfrannol a'r rheini sy'n cael cymorth gan y cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor i dalu eu bil treth gyngor oll yn gymwys bellach ar gyfer y taliad o £200. Gwn y bydd yr holl bartneriaid a phob Aelod yn chwarae eu rhan i sicrhau bod nifer fawr yn manteisio ar y cynllun hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth bellach am y nifer sy'n manteisio ar y cynllun cymorth tanwydd a gyflwynwyd y llynedd, a byddaf yn diweddaru hynny wrth inni gael rhagor o wybodaeth.
Ond bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod ni hefyd yn ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ehangu ei rwydwaith, er mwyn cynnig cymorth i'r aelwydydd mwyaf bregus ar draws Cymru sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Trussell, roeddwn yn falch o lansio hyn yn Wrecsam, lle roedd eu banc bwyd eisoes wedi datblygu'r cynllun, a dysgu hefyd gan fanc bwyd Blaenau Gwent, a oedd eisoes yn gysylltiedig ag ef. Ond bydd y cynllun hefyd yn rhoi cymorth iddynt ychwanegu at eu mesurydd talu ymlaen llaw neu brynu tanc llawn o olew gwresogi.
Rydym yn parhau i alw am gael gwared ar daliadau sefydlog o dariffau mesuryddion talu ymlaen llaw. Fel mater o flaenoriaeth, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael yn y tymor byr i helpu gyda'r argyfwng uniongyrchol. Ac yn dilyn llwyddiant y ddwy ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', rydym wedi helpu pobl i hawlio mwy na £2.7 miliwn o incwm ychwanegol, a byddwn yn cynnal trydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i helpu pobl i gael gafael ar yr holl fudd-daliadau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael. Ond mae angen gweithredu yn y tymor hwy fel y gwnaed yn glir yn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi a sicrhau ein bod ond yn defnyddio'r ynni sydd ei angen arnom i greu cartref gweddus a diogel. Mae ein rhaglenni ôl-osod tai yn seiliedig ar egwyddorion o drin y gwaethaf yn gyntaf, ar sail adeiledd yn gyntaf, gyda mesurau gwresogi wedi'u cynllunio i sicrhau pontio teg i wresogi carbon isel ar gyfer iechyd a llesiant ein pobl a'r blaned.
Bydd yr adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried yn fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Ac ar yr un pryd, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen Cartrefi Clyd gyfredol, gan gynyddu ei chyllideb 10 y cant eleni i £30 miliwn, gyda chyfanswm buddsoddiad o £100 miliwn yn y setliad cyllideb tair blynedd presennol. Bydd hyn yn cefnogi tua 5,000 o aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni cartref mawr eu hangen am ddim erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae disgwyl i gynllun Nyth hefyd ddarparu cyngor diduedd am ddim ynghylch effeithlonrwydd ynni drwy'r llinell gymorth i dros 1,600 a mwy o aelwydydd y flwyddyn. Bydd hyn yn cael ei ymestyn o fis Tachwedd gydag ymgyrch tanwydd gaeaf i ddarparu cyngor a chyfeirio at wasanaethau cymorth hanfodol, fel y nodais.
Yn olaf, mae contract Nyth hefyd yn parhau i arloesi, ac eleni mae wedi cynnwys gosod paneli solar. Caiff hyn ei ategu cyn bo hir drwy gyflwyno atebion storio batri, sy'n parhau i gael eu hargymell drwy'r asesiad tŷ cyfan. Bydd y cyfuniad o'r ddau fesur yn helpu i liniaru'r gwaethaf o'r cynnydd anwahaniaethol diweddar mewn prisiau ynni, gan wneud yr ynni solar yn hygyrch i aelwydydd yn ystod adegau brig, pan fydd y systemau solar ffotofoltäig yn llai effeithlon. Yn amlwg, byddwn yn cymryd tystiolaeth arall o'r ddadl heddiw o ran mynediad i'r grid.
Ar ran Llywodraeth Cymru, unwaith eto rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthfawr hwn, gan dderbyn 21 o argymhellion yn llawn a dau argymhelliad mewn egwyddor. Bydd y rheini'n cael eu cyflawni, a byddwn yn mynd ati i weithredu'r argymhellion hyn yn unol â'r pwysigrwydd y maent yn ei haeddu, gan gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i ymateb i'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael â thlodi o bob math, gan gynnwys tlodi tanwydd. Bydd hyn hefyd yn darparu camau cynaliadwy mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.