Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Felly, codwyd materion gyda mi ynghylch hynny ac mae'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni'n edrych arno'n ofalus iawn. O ran treth etifeddiaeth, oedd, roedd yn rhywbeth i ni ei ystyried ac rydym ni'n dal i'w ystyried yn rhan o ddyluniad y cynllun. Fel y gwyddoch, rydym ni ar ail gam y cyd-ddylunio nawr. Ac yn amlwg, mae treth etifeddiaeth yn fater sydd heb ei ddatganoli, felly rwyf i wedi gofyn i swyddogion weithio'n agos iawn gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ymwneud â'r cynllun i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol, os mynnwch chi.
Fel rydych chi'n dweud, eiddo amaethyddol, mae rhywfaint ohono'n gymwys ar gyfer rhyddhad amaethyddol, ac mae hwnnw'n dir neu dir glas sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau. Felly, mae'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n edrych ar y 10 y cant yna o goed yr ydym ni eisiau i bob fferm ei gael, i rannu'r llwyth ledled Cymru, nad ydym ni'n creu canlyniadau anfwriadol.