Ymchwiliad COVID-19 y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:53, 27 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wir yn ofni na fyddwn ni'n gweld craffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, yn dda ac yn ddrwg, y mae Cymry yn ei haeddu. Yr hyn sydd gennym ni, ar ôl gwrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydym ni'n gweld Gweinidogion eu hunain yn comisiynu cynghorau iechyd cymuned i gasglu barn y cyhoedd ar yr ymateb i COVID. Mae'r ymchwiliad y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i gomisiynu i heintiau a gafwyd yn yr ysbyty—ffug ymchwiliadau 'gyda'r Llywodraeth yn marcio ei gwaith cartref ei hun,' fel y dywedodd un ymgyrchydd wrthyf i. A yw'r Trefnydd yn cytuno â mi bod perygl gwirioneddol iawn yma o Gymru'n syrthio rhwng dwy stôl?